Neithiwr cyhoeddwyd mai’r pianydd Tianhong Yang oedd enillydd Gwobr Ian Stoutzker am Berfformiad Rhagorol mewn Cerddoriaeth yn CBCDC. Chwaraeodd Tianhong gerbron y cymwynaswr Ian Stoutzker a phanel nodedig o feirniaid, yn cynnwys Rebecca Evans, dan gadeiryddiaeth John Fisher, i ennill y wobr gwerth £10,000.
Roedd repertoire buddugol Tianhong yn cynnwys perfformiadau unawdol o Scarlatti, Chopin a Rachmaninoff, yn ogystal â Concerto i’r Harpsicord gan Henryk Mikolaj Górecki, a chwaraewyd gyda Cherddorfa Siambr CBCDC.
Llongyfarchiadau hefyd i’r cerddorion eraill a gyrhaeddodd y rownd derfynol, Jemma Freestone, Vanessa Bowers a Lukasz Karauda.
Rhannu ar Twitter
Rhannu ar Facebook