Wrth i ddosbarth 2013 fynd am Neuadd Dewi Sant yn eu capiau a’u gynau i ddathlu llwyddiannau ei gilydd yn seremoni raddio eleni, manteisiodd y Coleg ar y cyfle i dalu gwrogaeth i’w Gymrodorion newydd:
Matthew Rhys, Rhys Ifans, Catherine Zeta Jones, actorion rhyngwladol o fyd y llwyfan, ffilm a’r teledu
Anna Williams, Rheolwr Artistig a Rheolwr Cystadleuaeth Canwr y Byd Caerdydd
Thomas Kurrer, cyn Lywydd a Phrif Weithredwr Steinway & Sons Worldwide, sydd wedi gweithio’n agos gyda’r Coleg, yn arbennig yn 2009, pan ddaeth yn Gonservatoire Steinway Gyfan cyntaf y DU
Tim Routledge, cyn-fyfyriwr CBCDC a Chynllunydd Goleuo gwobrwyedig y Gemau Olympaidd
Llŷr Williams, pianydd rhyngwladol, a fydd yn dychwelyd i’r Coleg yn 2014 i berfformio ei gylch gwobrwyedig o Sonatas Piano Beethoven
John Fisher, uwch hyfforddwr llais, cyn Gyfarwyddwr Artistig Opera Cenedlaethol Cymru
Julie Gardner, cyn Gynhyrchydd Gweithredol ar gyfer BBC Worldwide America
Peter Curran, cyn Is-brifathro CBCDC
Codwn ein hetiau i’n graddedigion newydd a’n cymrodorion, a fwynhaodd ddiwrnod o ddathlu yn yr haul. Bydd Catherine Zeta Jones, Rhys Ifans a Julie Gardner yn derbyn eu Cymrodoriaethau pan fyddant yn ymweld â’r Coleg yn ddiweddarach eleni.
Rhannu ar Twitter
Rhannu ar Facebook