Mae rhai o raddedigion CBCDC yn ymddangos mewn cynyrchiadau Shakespeare proffil uchel ar hyd a lled y wlad ar hyn o bryd.
Yn theatr y National, mae Lyndsey Marshal (llun ohoni uchod mewn rihyrsal fel Emilia) a Rebecca Tanwen (graddiodd yn 2010) yn ymddangos yn Othello. Dyma Lyndsey a’i chyd-actor Rory Kinnear yn sgwrsio am eu rolau.
Yr hydref hwn bydd, Lloyd Everitt (2010) yn chwarae rhan Claudio ochr yn ochr â Vanessa Redgrave a James Earl Jones yn Much Ado about Nothing yn yr Old Vic.
Yn y tymor presennol yn yr RSC, mae Oliver Ryan (1997) yn chwarae rhan Jacques yn As You Like It a Rosencrantz yn Hamlet, ac mae’r perfformiwr RSC rheolaidd Katy Stephens (1990) yn ymddangos fel y Tamora ‘llechwraidd, pigog’ yn Titus Andronicus.
Ymddangosodd Alex Vlahos (2009) a Anjana Vasan (2011) yn Macbeth Kenneth Branagh fel rhan o Ŵyl Ryngwladol Manceinion.
Ymddangosodd tri myfyriwr graddedig – Jason Baughan, Matthew Raymond (2012) ac Amanda Wilkin (2007) – yn The Tempest yn theatr y Globe.
Rhannu ar Twitter
Rhannu ar Facebook