Yn ôl i brif wefan CBCDC

Dave Danford yn sôn am y Cydweithrediad gydag Evelyn Glennie

19 Tachwedd 2013

Ffeiliwyd o dan:

Cerddoriaeth
Offerynnau Taro

Mae gan y myfyriwr gradd offerynnau taro Dave Danford y portffolio gyrfa delfrydol. Nid yn unig ei fod yn gweithio fel offerynnwr taro rhydd-gyfrannol yn perfformio ledled y DU a thramor, mae hefyd yn gweithio fel cyfansoddwr a chynhyrchydd – ac mae’n rheoli dwy gerddorfa.

Fel rheolwr cerddorfa’r British Sinfonietta, yn ddiweddar trefnodd – a pherfformiodd – Dave – ddau gyngerdd gyda’r Fonesig Evelyn Glennie. Gadawn i Dave egluro:

“Cefais y syniad gwreiddiol ar gyfer y cyngherddau hyn ym mis Mehefin 2012 ac fe es at Evelyn yn uniongyrchol i ofyn a fyddai ganddi ddiddordeb. Anfonodd awgrymiadau ar gyfer gwahanol repertoires ac yna dechreuais drefnu’r rhaglen lawn.”

“Yr elfen sy’n rhoi’r mwyaf o foddhad i mi yn fy rôl fel rheolwr cerddorfaol yw ei fod yn rhoi mwy o gyfleoedd i mi fel offerynnwr taro. Pryd bynnag y bo’n bosibl fe fyddaf yn chwarae’r offerynnau taro gyda’r gerddorfa a diolch i brosiect Evelyn Glennie roedd hwn yn gyfle o’r fath.”

“Mae gweithio gydag Evelyn bob amser yn brofiad ysbrydoledig oherwydd eich bod yng nghwmni rhywun sydd ar y brig yn ei maes, fel unawdydd rhyngwladol ac offerynnwr taro o’r radd flaenaf.”

Nid Dave oedd yr unig fyfyriwr graddedig o CBCDC a oedd yn perfformio yn y cyngerdd. Roedd y pianydd Dawn Hardwick yn unawdydd yn y cyngherddau, ac roedd dros 20 o raddedigion eraill yn rhan o’r gerddorfa.