Yn ôl i brif wefan CBCDC

Anturiaethau CBCDC gyda’r Doctor

21 Tachwedd 2013

Ffeiliwyd o dan:

Cynllunio a Chynhyrchu

Wrth i ddathliad pen-blwydd hanner can mlynedd Doctor enwocaf y byd agosáu, roeddem yn teimlo y dylem wneud ychydig o deithio drwy amser ein hunain ac ailymweld a chysylltiadau’r Coleg ag un o gyfresi mwyaf eiconig y teledu.

Pan ddychwelodd Doctor Who gyntaf i’n sgriniau yn 2005, Edward Thomas Cymrawd CBCDC (llun uchod) oedd cynllunydd y sioe. Recriwtiodd Ed ddegau o’n myfyrwyr a graddedigion cynllunio theatr i weithio ar y sioe.

Yn ôl Russell T Davies: “Mae’r modd y mae [Ed Thomas] yn cyflwyno cynlluniau profiad gwaith a chynnwys myfyrwyr yn anhygoel. Aeth 32 o raddedigion Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru drwy’r drysau, gyda 15 ohonynt bellach dan gontract, nid dim ond ar brofiad gwaith. Y cynllun a ddechreuwyd ganddo yw’r cynllun mwyaf anhygoel a chwyldroadol a dylai pob adran drama yn y wlad ei fabwysiadu.”

Mae James North yn un o’r graddedigion a fu’n gweithio ar y sioe ac aeth ymlaen i greu gyrfa lwyddiannus iddo’i hun ym myd teledu. Mae’n egluro:

“Ymunais a’r gyfres fel Cyfarwyddwr Celf Goruchwyliol Cynorthwyol yn 2006 ar ddechrau Tymor Dau. Hon oedd fy rôl gyntaf mewn teledu ac yn fuan dysgais y drefn o dan lygad barcud Stephen Nicholas ac Edward Thomas, oedd yng ngofal yr Adran Gelf ar y pryd.

Yna, ddeg mis yn ddiweddarach, cyhoeddodd Russell T Davies ddechrau cyfres Torchwood a newidiodd ein briff yn llwyr; roeddem nawr yn cynllunio ac yn saethu dwy sioe uchel eu proffil ar yr un pryd ac yn fuan daeth hyn yn dair gyda dechrau The Sarah Jane Adventures. Erbyn y Trydydd Tymor roeddwn yn Gynllunydd Cyswllt.

Rhoddodd CBCDC y profiad ymarferol, etheg gwaith, a’r gallu technegol i mi eistedd yn unrhyw le o fewn adran celf teledu. Rwy’n dal i fod yn Gynllunydd Cyswllt i Edward ac rydym newydd gwblhau ail gyfres cyd-gynhyrchiad Starz/BBC Worldwide Da Vinci’s Demons – antur greadigol anferth arall. Nid yw’n syndod ar y cynhyrchiad hwn, sydd ag adran gelf o 50 o bobl, bod 15 o raddedigion CBCDC wedi bod yn gweithio gyda ni yn barhaol a llawer mwy yn ôl y galw.”