Roedd rhai o enwau mwyaf byd Theatr Gerdd ymhlith y cynulleidfaoedd gorlawn ar gyfer Rent, sioe olaf myfyrwyr eleni.
Roedd dau o gyfarwyddwyr castio mwyaf dylanwadol y West End, David Grindrod a Trevor Jackson, yn bresennol ym mherfformiad nos Lun.
Y diwrnod canlynol, roeddent yn clyweld y myfyrwyr newydd a fydd yn dechrau yn CBCDC ym mis Ionawr ar gyfer ysgoloriaethau ar ran Sefydliad Andrew Lloyd Webber a Sefydliad Mackintosh. Mae David Grindrod (prif lun, ail o’r chwith) wedi castio llawer o sioeau llwyddiannus Andrew Lloyd Webber yn cynnwys The Phantom of the Opera, Jesus Christ Superstar, Joseph and the Amazing Technicolor Dreamcoat a Starlight Express. Trevor Jackson (prif lun, trydydd o’r chwith) yw Cynhyrchydd Gweithredol a Chyfarwyddwr Castio Cameron Mackintosh.
Yn ddiweddarach yn yr wythnos dywedodd Bert Fink, sy’n Uwch Is-lywydd Ewropeaidd Rodgers & Hammerstein, ar Facebook ar ôl gweld y sioe:
“Cefais fy ngwefreiddio gymaint gan berfformiad heno…daethant â’r gwaith yn fyw gyda dewrder ac angerdd a oedd yn wirioneddol ysbrydoledig.”
Rhoddodd yr aficionado a’r raconteur cerddorol (isod) hefyd amser i dreulio bore yn siarad â myfyrwyr am ei brofiad o gynhyrchiad gwreiddiol y sioe gerdd lwyddiannus oddi ar Broadway ym 1994.
Dywedodd Vivien Care, Arweinydd y Cwrs MA mewn Theatr Gerdd, bod cyfranogiad a diddordeb unigolion mor allweddol yn y diwydiant theatr gerdd yn dystiolaeth eu bod “yn amlwg yn rhoi gwerth uchel ar y math o hyfforddiant dwys wedi ei ganolbwyntio ar y diwydiant a gynigir gennym yma.”
Mae denu ystod eang o weithwyr proffesiynol y diwydiant i’r Coleg i weithio’n agos gyda’r myfyrwyr wedi bod yn ffactor allweddol yn llwyddiant y cwrs hyd yn hyn.
Rhannu ar Twitter
Rhannu ar Facebook