Yn ôl i brif wefan CBCDC

Graddedigion yn Atgyfodi Under Milk Wood

20 Mawrth 2014

Ffeiliwyd o dan:

Actio

Mae naw o raddedigion CBCDC yn ymddangos mewn atgyfodiad o Under Milk Wood sydd wedi cael adolygiadau gwych.

Mae cynhyrchiad Clwyd Theatr Cymru yn rhan o Ŵyl 100 Dylan Thomas, sy’n nodi canmlwyddiant geni’r llenor o Abertawe. Mae 2014 hefyd yn nodi 60 mlynedd ers i’r ddrama gael ei chynhyrchu gyntaf ym Mhrydain, fel drama radio gan y BBC ym mis Ionawr 1954.

“Mae’n gyflwyniad sy’n symud yn gyflym ac yn taro deuddeg, sy’n ganmoliaeth i’r ensemble rhagorol o actorion o Gymru.”
The Guardian

Y graddedigion yw: Richard Elfyn, Katie Elin-Salt, Charlotte Gray, Sara Harris-Davies, Sophie Melville, Steven Meo, Caryl Morgan, Simon Nehan a Christian Patterson. Maent yn ymuno â phedwar actor arall o Gymru: Owen Teale, Kai Owen, Ifan Huw Dafydd a Brendan Charleson.

“Mae’r ensemble yn rhagorol.”
The Stage

Ar ôl teithio’r DU bydd y cynhyrchiad yn mynd ar daith o amgylch y byd, gan gynnwys perfformiadau yn America ac Australia.