Yn ôl i brif wefan CBCDC

Gwobr Radio o Fri i Sam

20 Mawrth 2014

Ffeiliwyd o dan:

Actio

Mae Sam Rix, sy’n astudio am MA mewn Actio ar gyfer Llwyfan, Sgrîn a Radio, wedi ennill yr ail wobr yng Ngwobr Bwrsariaeth Carleton Hobbs nodedig y BBC.

Mae’r wobr, a enwyd ar ôl Carleton Hobbs a oedd yn actor radio enwog yn ystod ‘Oes Aur Radio’, yn chwilio am leisiau radio nodedig ac amryddawn o blith ysgolion drama y DU.

Fel gwobr caiff Sam ei gastio fel actor llawrydd yn un o gynyrchiadau hydref/gaeaf Cwmni Drama Radio y BBC. Mae’r cwmni’n cynhyrchu gwaith ar gyfer Radio 3, Radio 4, y World Service a BBC 7.

Meddai Sam: “Mae cael fy nghydnabod gan y BBC yn anrhydedd gwirioneddol, a chredaf ei bod yn wych bod y sefydliad yn cynnig y cyfleoedd hyn i actorion ifanc. Cefais fy synnu braidd gan y canlyniad, ond mae’r Coleg yn darparu hyfforddiant rhagorol ac mae ganddo hanes gwych yng nghystadleuaeth Carleton Hobbs. Gan fy mod yn hoff iawn o ddramâu radio, mae’n fraint i fod yn rhan o sefydliad Prydeinig mor wych.”

Mae Sam yn ymuno â llu o fyfyrwyr CBCDC sydd wedi naill ai ennill neu ddod yn ail yn y gystadleuaeth, gan gynnwys Arthur Hughes a Wilf Scolding yn 2013, a Will Howard a Katherine Pearce yn 2012. Ers 1966 mae deg o fyfyrwyr y Coleg wedi ennill y wobr a deg wedi dod yn ail.