Yn ôl i brif wefan CBCDC

Matt yn Cael Swydd Prif Dympanydd

20 Mawrth 2014

Ffeiliwyd o dan:

Offerynnau Taro

Llongyfarchiadau i un o’n graddedigion Matt Hardy, sydd wedi’i benodi’n Brif Dympanydd Cerddorfa Siambr yr Alban.

Graddiodd Matt o CBCDC gyda gradd dosbarth cyntaf yn 2010. Mae wedi gweithio gyda Cherddorfa Genedlaethol Cymru y BBC, Opera Cenedlaethol Cymru, Academy of St Martin in the Fields, Royal Northern Sinfonia a Sinfonia Cymru. Fel athro, mae’n gweithio gyda myfyrwyr Ysgol Cadeirlan Wells, yn diwtor gyda’r Ensemble Chwyth Cenedlaethol Ieuenctid ac mae wedi cynnal prosiectau ieuenctid mewn ysgolion cynradd ledled Cymru.

Meddai Matt: “Rydw i wrth fy modd i gael cynnig swydd gyda’r SCO. Drwy gydol fy nghyfnod prawf cefais fy synnu nid yn unig gan safon y creu cerddoriaeth, ond hefyd ymrwymiad llwyr yr holl aelodau. Ni allaf aros i ddechrau fel aelod parhaol o’r Gerddorfa.

“Y prif reswm fy mod wedi bod mor ffodus i weithio yn y diwydiant hwn yw’r gwaith cerddorfaol ac ensemble a gynigir gan CBCDC. Mae sesiynau repertoire rheolaidd a chynlluniau lleoli gyda dwy gerddorfa broffesiynol leol yn rhoi’r holl sgiliau a’r rhinweddau i allu ceisio am waith, a chael gwaith, gyda’r ensembles hyn. Mae safon yr addysgu a’r mentora yn wych ac mae’r gefnogaeth a gefais – ac yr wyf yn dal yn ei chael – gan y Coleg yn gyffredinol yn rhagorol!”