Yn ôl i brif wefan CBCDC

5 Rheswm Da Dros Fynd i Weld y Tymor NEWYDD

1 Ebrill 2014

Ffeiliwyd o dan:

Actio

Yr wythnos hon bydd ein tymor NEWYDD yn dechrau – pedair drama newydd sbon gan ysgrifenwyr a chyfarwyddwyr sy’n dod i’r amlwg, wedi eu perfformio a’u cynhyrchu gan ein Cwmni Richard Burton yng Nghaerdydd ac yn Llundain. Dyma bump rheswm da iawn pam y dylech weld y sioeau.

“Yng Nghaerdydd yr wythnos hon bydd CBCDC yn llwyfannau perfformiadau cyntaf dramâu newydd gan rai o’r ysgrifenwyr mwyaf cyffrous a rhai i gadw llygad amdanynt”
Lyn Gardner, The Guardian

1. Cydweithrediad

Mae’r tymor NEWYDD yn gydweithrediad rhwng CBCDC a dau o gefnogwyr mwyaf brwd ysgrifennu newydd yn y DU – Paines Plough (y mae The Guardian yn ei disgrifio fel “calon ac enaid ecosystem theatrau y DU”) a The Royal Court (“theatr bwysicaf Ewrop” – New York Times).

2. Dramâu Newydd – yng Nghaerdydd a Llundain

Rihyrsals ar gyfer Pomona

Bydd tair drama newydd sbon yn cael eu perfformio am y tro cyntaf yn ystod tymor NEWYDD. Ceir cariad, cyfeillgarwch ac iachâd yn VSO9; hunllef yn yr unfed ganrif ar hugain yn Pomona; un foment yn chwalu saith bywyd yn Blister. Yn ymuno â hwy fydd comisiwn CBCDC o 2010 – ailweithiad Gary Owen o ddrama ddrwg-enwog Wedekind. Perfformir y dramâu am y tro cyntaf yng Nghaerdydd, ac yna byddant yn symud i’r Gate Theatre yn Notting Hill.

3. Yr Ysgrifenwyr Newydd Gorau

Mae’r dramâu wedi eu hysgrifennu’n arbennig ar gyfer tymor NEWYDD gan bedwar ysgrifennwr sy’n dod i’r amlwg: Alistair McDowall y dyfarnwyd Gwobr Bruntwood am Ysgrifennu Drama i’w ddrama Brilliant Adventures yn 2011; Hayley Squires – disgrifiwyd ei drama gyntaf Vera, Vera, Vera gan yr Evening Standard fel “gwaith cyntaf dilys a hynod graff”; Laura Lomas, sydd wedi cwblhau ymlyniad gyda’r National Theatre Studio; a’r dramodydd o Gymro Gary Owen, cyn enillydd Gwobr Meyer Whitworth am ysgrifennu newydd ar gyfer y theatr.

4. Cyfarwyddwr sy’n Dod i’r Amlwg

Cyfarwyddwr Ned Bennett mewn rihyrsals ar gyfer Pomona

Bydd pedwar cyfarwyddwr newydd sy’n cynhyrfu’r dyfroedd ym myd y theatr yn gweithio ochr yn ochr â’r ysgrifenwyr: Actor/cyfarwyddwr Darren Lawrence, Ned Bennett (Cyn Gyfarwyddwr Preswyl Dan Hyfforddiant yn y Royal Court ac a raddiodd o Gwrs Cyfarwyddwr y National Theatre Studio), Ellen McDougall (Cyfarwyddwr yn y Secret Theatre yn y Lyric Hammersmith) a Stef O’Driscoll (cyn Gyfarwyddwr Cyswllt yn y Lyric Hammersmith).

5. Sgyrsiau ar Ysgrifennu Newydd

Mae NEWYDD yn cynnwys cyfweliad gyda’r dramodydd gwobrwyedig Simon Stephens

Mae’r tymor NEWYDD hefyd yn cynnwys cyfres o seminarau am ddim a sgyrsiau wedi perfformiadau yn ymdrin â phwnc ysgrifennu newydd. Bydd trafodaethau gyda Simon Stephens, enillydd Gwobr Olivier am ei addasiad o The Curious Incident of the Dog in the Night Time gan Mark Haddon yn y National Theatre; Dennis Kelly, a ysgrifennodd Matilda – The Musical; Rachel De Lahay, enillydd Gwobr Theatr London Evening Standard 2013 am ‘Y Dramodydd Mwyaf Addawol’ ac un o Sêr Yfory 2013 Screen Daily; a Richard Bean, yr ysgrifennwr cyntaf i ennill Gwobr yr Evening Standard am y Ddrama Orau am ddwy ddrama – One Man, Two Guvnors (National Theatre) a The Heretic (Royal Court).