“Pwy sydd wedi comisiynu neu gyd-gynhyrchu o bosibl y gwaith theatr newydd mwyaf diddorol a fydd yn digwydd dros yr ychydig wythnosau nesaf? Efallai y cewch eich synnu o glywed yr ateb – nid theatrau, ond yn hytrach ysgolion drama”
Lyn Gardner, The Guardian
Wrth i’r cast a’r timau cynhyrchu ar gyfer y tymor NEWYDD – ein gŵyl ysgrifennu newydd – fynd â phedair drama newydd i The Gate Theatre yn Notting Hill, dyma ddetholiad o luniau o gymal Caerdydd yr ŵyl.
Daw’r prif lun o VS09, cydweithrediad gyda’r Royal Court, a ysgrifenwyd gan Hayley Squires a gyfarwyddwyd gan Darren Lawrence.
“Mae ysgrifennu fel hyn yn dda ei weld”
Adolygiad o VS09
Pomona, cydweithrediad gyda’r Royal Court. Ysgrifennwyd gan Alistair McDowall a chyfarwyddwyd gan Ned Bennett.
Sesiwn holi ac ateb gyda Simon Stephens, dramodydd ac enillydd Gwobr Olivier ac Aelod Cyswllt Artistig yn y Lyric Hammersmith.
Blister – mewn cydweithrediad â Paines Plough – ysgrifennwyd gan Laura Lomas a chyfarwyddwyd gan Stef O’Driscoll.
Ymddangosodd Dennis Kelly – awdur Matilda the Musical ac Utopia ar Channel 4 – gyda Rachel De-Lahay, a enillodd Wobr Urdd yr Ysgrifenwyr am y Ddrama Theatr Orau gyda’i drama gyntaf The Westbridge.
Spring Awakening – comisiwn gan Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru o 2010 gan Gary Owen. Cyfarwyddir y ddrama gan Ellen McDougall.
“Stori drist a adroddir yn hyfryd a’i llwyfannu’n ddiddorol”
Adolygiad o Spring Awakening
Rhannu ar Twitter
Rhannu ar Facebook