Yn ôl i brif wefan CBCDC

Justina yw Carmen yr ENO

17 Mehefin 2014

Ffeiliwyd o dan:

Astudiaethau Llais ac Opera

Cyhoeddwyd yn ddiweddar y bydd myfyrwraig raddedig CBCDC, Justina Gringyte, yn chwarae’r brif rôl yng nghynhyrchiad English National Opera 2015 o Carmen – yr adfywiad cyntaf o gynhyrchiad poblogaidd 2012 y cyfarwyddwr o Gatalwnia Calixto Bieito o Opera danllyd Bizet, sydd wedi ei lleoli yn nyddiau olaf teyrnasiad Franco yn Sbaen.

Hon fydd rôl gyntaf Justina i’r ENO. Gwnaeth ei pherfformiad mewnol cyntaf i’r cwmni eleni fel Maddalena yng nghynhyrchiad Christopher Alden o Rigoletto Verdi. Yn ôl Opera Britannia: “Roedd y Maddalena danllyd gan Justina Gringyte, ymhell uwchben Banks yn y llen-alwad, yn ardderchog, ei llais Mezzo aeddfed yn gefndir perffaith i lais soprano Christy yn y pedwarawd.”

Ar ôl graddio o CBCDC ymunodd Justina â’r Stiwdio Opera Genedlaethol, yna Rhaglen Artistiaid Ifanc Jette Parker y Tŷ Opera Brenhinol yn nhymhorau 2011/12 a 2012/13. Dychwelodd i’r Tŷ Opera Brenhinol yn 2013/14 fel Flowermaiden yn Parsifal Wagner a bydd yn canu Maddalena yn Rigoletto yn Covent Garden yr hydref hwn. Ei rôl bresennol yw Fenena yng nghynyrchiad Opera Cenedlaethol Cymru o Nabucco.

Caiff perfformiad Justina yn Carmen hefyd ei ddarlledu mewn sinemâu ar draws y DU fel rhan o ENO Screen.