Yn ôl i brif wefan CBCDC

Trystan yn Ennill Gwobr Stoutzker

19 Mehefin 2014

Ffeiliwyd o dan:

Astudiaethau Llais ac Opera

Llongyfarchiadau i Trystan Llyr Griffiths, enillydd Gwobr Ian Stoutzker eleni. Dyfernir y wobr yn flynyddol i’r cerddor mwyaf rhagorol yn CBCDC.

Roedd Trystan y tenor – sy’n astudio am radd MA mewn Perfformio Opera – yn cystadlu yn erbyn y soprano Aoife O’Connell, y pianydd Seho Lee a’r chwaraewr fiola Benjamin Newton. Ar ôl ei berfformiad – a oedd yn cynnwys gweithiau gan Rossini, Rachmaninov, Strauss a Verdi – penderfynwyd mai Trystan oedd enillydd y wobr gwerth £10,000.

Nid hon yw’r wobr gyntaf i Trystan ei hennill. Ym mis Ebrill dyfarnwyd Gwobr Bruce Miller Gulliver iddo ac yn 2013 roedd yn un o bum myfyriwr i dderbyn Ysgoloriaethau Tywysog Cymru cyntaf y Coleg ar gyfer myfyrwyr eithriadol.

Llun o gyfrif Twitter Trystan – yng nghefn y llwyfan yn aros am ganlyniad Gwobr Stoutzker

Nid yw Trystan yn debyg i’r canwr opera nodweddiadol. “Nid ym myd opera y mae fy nghefndir o gwbl,” eglura Trystan, “yn syml dyna’r llwybr yr arweiniodd fy llais i ar ei hyd. Fe wnes gwrs gradd mewn cerddoriaeth, theatr ac astudiaethau cyfryngau yng Ngholeg y Drindod, Caerfyrddin, ac rydw i wastad wedi canu mewn Eisteddfodau, ond fues i erioed mewn coleg cerdd. Am dair blynedd roeddwn yn gweithio fel gosodwr drysau garej cyn dechrau hyfforddi ym myd yr opera. Rwy’n credu fy mod ychydig yn wahanol. Mae’r rhan fwyaf o bobl ar y cwrs wedi gwneud graddau mewn perfformio ac yn gwybod mai opera yw’r maes iddynt hwy. I mi, dal i’w ddarganfod ydw i, yn araf ond yn sicr.”

“Bu’n rhaid i mi wneud newidiadau i fy ffordd o fyw i ffitio’r canu. Yn y gorffennol fe fyddwn yn chwarae rygbi yn y prynhawn a chanu yn y nos ond nid yw hynny’n gweithio os ydych eisiau cadw ansawdd eich llais. Os byddwch yn rhedeg o gwmpas trwy’r dydd, y peth cyntaf i fynd yw eich llais. Nawr, os oes gen i gyngerdd yn hwyr, ni fyddaf yn chwarae yn ystod y dydd.”

Caiff Trystan ei gynrychioli gan asiantaeth Harlequin Bryn Terfel, sydd wedi ei lleoli yng Nghaerdydd, ac mae wedi ymddangos gyda’r bas bariton ar ei raglen ar S4C, yng ngŵyl Brynfest yn Llundain ac yng Ngŵyl y Gelli, lle buont yn canu Deuawd y Pysgotwyr Perl. Yn ddiweddarach eleni bydd Trystan yn ymddangos gyda Bryn Terfel yn y Proms.

Bydd Trystan yn ymddangos yn Cosi Fan Tutte yma yn y Coleg ym mis Gorffennaf, ac yna’n parhau gyda’i hyfforddiant yn y Stiwdio Opera Genedlaethol nodedig ym mis Medi 2014.