Yn ôl i brif wefan CBCDC

Myfyrwyr Cynllunio Theatr yn Derbyn Ysgoloriaeth Da Vinci’s Demons

25 Mehefin 2014

Ffeiliwyd o dan:

Cynllunio a Chynhyrchu

Yn fuan bydd y myfyrwyr Cynllunio Theatr Isabelle Wilkes a Nathan Gibson yn mynd i lawr i Abertawe i weithio ar un o’r cyfresi teledu drytaf i gael ei ffilmio yn y DU.

Mae’r ddwy wedi derbyn ysgoloriaethau mawr gan y cwmni cynhyrchu sy’n creu Da Vinci’s Demons, y gyfres deledu wobrwydedig sydd wedi bod yn llwyddiannus ledled y byd. Byddant hefyd yn cael cyfnodau o waith ar dymor tri y gyfres.

Cyhoeddwyd ysgoloriaethau Da Vinci o flaen cynulleidfa o wahoddedigion allweddol ym meysydd diwylliant a busnes, gan gynnwys Gweinidog Cymru dros yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth, Edwina Hart, a phennaeth Adjacent Productions a Chynhyrchydd Gweithredol ar Da Vinci’s Demons, Jane Tranter, yn sgriniad diweddglo yr ail gyfres.

Dywedodd Issy Wilkes, sy’n fyfyriwr blwyddyn gyntaf: “Roedd y wobr wedi ei seilio ar ein gwaith cwrs ac adborth gan ein darlithwyr, a daeth yn ddirybudd llwyr – roeddwn mewn cyflwr o sioc pan glywais! Roeddwn wedi clywed fy mod yn mynd i dderbyn ysgoloriaeth ond yna dywedwyd wrthyf y byddwn yn cael cyfle i weithio ar y rhaglen deledu ei hun. Felly byddaf yn treulio’r haf yn gweithio ar un o gynyrchiadau teledu mwyaf y wlad. Mae’n ffordd ardderchog i ddod i adnabod pobl yn y diwydiant ac i gael golwg ehangach ar beth yr wyf am ei wneud ar y cam cynnar hwn yn fy ngyrfa.”

Meddai Nate Gibson, ôl-fyfyriwr sydd ar hyn bryd yn cynllunio’r set a’r gwisgoedd ar gyfer cynhyrchiad a ysbrydolwyd gan y gêm fwrdd ‘Cluedo’ gyda’r Cwmni Dawns Cenedlaethol: “Mae’n gyfle gwych i fynd i’r diwydiant teledu, cyfle i wneud cysylltiadau ardderchog a chwrdd â phobl yn y maes. Mae cynllunio ar gyfer y teledu yn wahanol iawn mewn rhai ffyrdd i gynllunio theatr. Er bod i’r ddau yr un man cychwyn, mae’r diwydiant teledu ar raddfa arall, gyda ffocws gwahanol – ac wrth gwrs mae cyllideb cwbl wahanol i Da Vinci!”

David S. Goyer, awdur Man of Steel sydd wedi creu Da Vinci’s Demons ac fe’i cynhyrchir gan Adjacent Productions a Starz Entertainment. Caiff ei darlledu mewn 125 o wledydd mewn 45 o ieithoedd ac mae eisoes wedi derbyn dwy Wobr Emmy ac enwebiad BAFTA.