Yn ôl i brif wefan CBCDC

David Doidge: O CBCDC i’r WNO

8 Gorffennaf 2014

Ffeiliwyd o dan:

Astudiaethau Llais ac Opera

Llongyfarchiadau i David Doidge a fydd yn ymuno ag Opera Cenedlaethol Cymru (WNO) fel répétiteur llawn amser pan fydd yn graddio o Goleg Brenhinol Cymru’r wythnos hon.

Roedd David, a fu’n astudio ar gyfer MA mewn gwaith Répétiteur, ymhlith pump o dderbynwyr Ysgoloriaethau cyntaf Tywysog Cymru y Coleg i fyfyrwyr eithriadol yn 2013, a chafodd gynnig lleoliad o fri yn y Stiwdio Opera Genedlaethol yn Llundain i barhau â’i hyfforddiant. Mae’n gweithio a pherfformio gyda rhai o brif artistiaid y byd opera yn cynnwys Rebecca Evans, Bryn Terfel ac Alfie Boe. Llynedd perfformiodd yn y seremoni yn Los Angeles a ddathlodd dalent Cymru yn America a phryd y dyfarnwyd seren Hollywood i Richard Burton.

Gwnaeth David radd gyntaf mewn cerddoriaeth yma yng Ngholeg Brenhinol Cymru, ond yn wreiddiol roedd wedi meddwl am yrfa wahanol. Felly sut mae wedi cyrraedd y fan hon?

“Roeddwn wrth fy modd yn chwarae’r repertoire unawdol ac roeddwn bob amser wedi dychmygu gyrfa fel pianydd cyngerdd. Yn y Coleg dechreuais ddysgu rhagor am sut mae’r diwydiant yn gweithio a pha gyfleoedd sydd ar gael. Dechreuais gyfeilio yn ystod fy mlwyddyn gyntaf a sylweddolais fy mod yn mwynhau hynny’n fawr.”

Gwnaeth sgiliau chwarae ar yr olwg gyntaf cryf David ef yn gyfeilydd cadarn, ac yn fuan gwelodd Angela Livingstone, Pennaeth Opera CBCDC, ei botensial ac anogodd Angela ef i gofrestru ar raglen Meistr newydd y Coleg mewn gwaith répétiteur.

David, gyda Emyr Jones, yng nghynhyrchiad y Coleg o The Magic Flute

“Cefais chwarae mewn gwersi canu a dosbarthiadau’r gân a chefais brofiad o’r repertoire enfawr sydd ar gael ar draws y sbectrwm lleisiol, o repertoire canu i opera yn yr holl ieithoedd gwahanol,” meddai David.

Drwy gysylltiad agos y Coleg gydag Opera Cenedlaethol Cymru, daeth David o hyd i gyfleoedd i ennill rhagor o brofiad y tu allan i’r Coleg. “Ar y dechrau roeddwn yn cymryd rhan mewn rhai cyngherddau a gwaith allgymorth gyda choryddion a rhai o brif berfformwyr y cwmni yn y WNO. Ers hynny gofynnwyd i mi hyfforddi cantorion a chanu’r piano ar gyfer rihyrsals cerddoriaeth a chynyrchiadau.”

Y llynedd hyfforddodd David dymor Donizetti y WNO ac ef oedd y répétiteur ar gyfer Madam Butterfly a chynhyrchiad newydd clodfawr Lulu David Poutney, ac ymddangosodd ar y llwyfan ynddo.

“Cefais chwe blynedd ryfeddol yma ac rwy’n teimlo fy mod wedi fy integreiddio’n dda i’r byd proffesiynol, nid dim ond yma ond yn Llundain hefyd” meddai. “Bu’n wych gallu gwylio sut mae’r Coleg wedi trawsnewid ers i mi ddechrau – nid dim ond yr adeilad a’r cyfleusterau newydd ond yr athrawon a’r gweithwyr proffesiynol eraill sy’n dod yma, a’r nifer o raddedigion sy’n mynd ymlaen i fannau megis y Stiwdio Opera Genedlaethol.”