Yn ôl i brif wefan CBCDC

Graddedigion Cynllunio Theatr yn Creu Pyped Carbon Monocsid 10 Troedfedd o Daldra

8 Gorffennaf 2014

Ffeiliwyd o dan:

Cynllunio a Chynhyrchu

Cafodd tri o raddedigion diweddar cynllunio theatr eu cyflogi i weithio ar brosiect creadigol er mwyn ddangos peryglon gwenwyno gan garbon monocsid.

Gan weithio gyda Wales & West Utilities cafodd y graddedigion Jess Jones, Eleri Lloyd a Millie Else eu comisiynu i gynllunio pyped anferth i gynrychioli’r nwy gwenwynig ac, mewn menter allgymorth gyntaf a gyflwynwyd gan yr Adran Cynllunio Theatr, byddant hefyd yn cynllunio ac yn cyflwyno gweithdai pypedwaith ar gyfer pobl ifanc 11 i 18 oed. Caiff y rhain eu cyflwyno mewn ysgolion colegau a digwyddiadau cyhoeddus dros y 18 mis nesaf, gan arddangos sgiliau pypedwaith sylfaenol tra’n tynnu sylw at berygl y nwy anweledig hwn.

Esbonia’r Darlithydd Cynllunio, Bettina Reeves, sut ddechreuodd y cyfan: “Roedd Jess ac Eleri am sefydlu eu cwmni pypedwaith eu hunain wedi iddynt raddio. Fel adran rhown ffocws cryf ar bypedwaith felly bydd bob amser rai myfyrwyr sy’n dewis dilyn y maes hwn fel prif linyn gyrfa. Awgrymais y dylent adeiladu eu portffolio oherwydd bydd angen iddynt gael enw da profedig er mwyn cael unrhyw gyllid. Roedd cynnig cwmni Wales & West ar y dechrau ar gyfer myfyrwyr presennol, ond mae eu hamserlen hwy mor drwm meddyliais y byddai’n well cyflogi graddedigion a fyddai’n elwa’n wirioneddol o’r prosiect.”

Dyma Jess Jones, cynllunydd theatr a phypedwr, yn egluro’r broses greadigol:

“Y brif her oedd creu pyped cofiadwy, ysgytwol a oedd yn cyfleu nwy sy’n anweladwy. Penderfynom greu pyped enfawr tua 10 troedfedd o daldra a all bwyntio at bobl, arnofio o gwmpas, anadlu dros bobl (caiff aer ei bwmpio drwy ei geg) ac mae’n gallu symud yn llwyr, fel rhywbeth sydd â gwir fodolaeth.

Agwedd allweddol o’r cynllun yw bod ganddo galon sy’n goleuo: pan fo’n las mae’n ddisymud (mae fflamau sy’n llosgi’n las yn ddiogel o ran CO) a phan fo’n oren mae’n dod yn fygythiol (mae fflam sy’n llosgi’n oren yn cynrychioli bod CO yn casglu i lefel all fod yn angheuol). Mae hefyd wedi ei orchuddio a huddygl – arwydd arall bod CO yn cael ei gynhyrchu.

Gwnaed ‘sgerbwd’ y pyped o bibellau nwy – oedd yn ymddangos yn addas – ac ar ben hwnnw rhoesom sbwng trwchus a cherfio i mewn iddo gan ddefnyddio peirannau ac offer cerflunio. Yna gorchuddiwyd hwn â Scrim – deunydd mwslin wedi ei orchuddio â latex a PVA – a oedd yn ein galluogi i’w baentio.

Cymerodd dri diwrnod gwaith llawn i mi gerflunio’r pen clai a’i gastio mewn renoflox – deunydd plastig a ddefnyddir ar gyfer creu pennau pypedau cryf. Cerflunio yw un o’m hoff sgiliau a mwynheais bob munud o’r gwaith: mae cymeriad pyped bob amser yn ei wyneb, lle ceir cysylltiad llygad ac mae’n cyfleu personoliaeth y pyped – mae’r llygaid yn ffenestri i’w enaid. Defnyddiom ddeunydd mwslin wedi ei liwio â phaent gan chwistrellu dŵr mwdlyd drosto a chrafu i mewn i’r deunydd gan ddefnyddio llifiau ac offer cerfio. Creodd hyn yr edrychiad curedig a staeniau du huddygl a greodd wisg y pyped.

Roeddwn yn wir falch i glywed o ddigwyddiad y lansio bod y pyped yn edrych fel gwraig oedd wedi colli ei phlant, bod y pen sgerbwd yn edrych yn fwy trist na brawychus – fel pe bai’n ceisio rhybuddio eraill nid eu lladd. Dyna oedd ein nod; nid oedem am iddo fod yn frawychus yn unig, roeddem am iddo edrych fel pe bai ganddo stori i’w hadrodd nid dim ond cragen wag. Roedd yn anodd ei ddylunio ond credaf inni gynhyrchu rhywbeth a fydd yn ysbrydoli eraill, nid dim ond i dderbyn neges allyriadau CO ond hefyd i feddwl am bosibiliadau pypedwaith.”

Bydd y graddedigion yn mynd â’r pyped i gynhadledd Carbon Monocsid IGEM (Sefydliad y Peirianwyr a’r Rheolwyr Nwy) yn y gynhadledd yng Nghanolfan y Frenhines Elizabeth yr Ail ar 9 Gorffennaf.