Yn ôl i brif wefan CBCDC

Pypedwaith yn Cwrdd â’r Syrcas yn The Impossible Fair

9 Gorffennaf 2014

Ffeiliwyd o dan:

Cynllunio a Chynhyrchu

Pe baech chi’n mynd am dro i’r goedwig heddiw byddech yn sicr o gael eich synnu, oherwydd yn llechu yn y coed ar ben un o fynyddoedd Cymru gwelir cewri a physgod aur, morforynion ac acrobats a chandi fflos a chnau coco sy’n canu…

Rhan o’r Impossible Fair oedd yw’r olygfa hon o gymeriadau rhyfeddol – perfformiad pypedwaith a gynlluniwyd ac a berfformiwyd gan fyfyrwyr y cwrs BA mewn Cynllunio Theatr.

Dywed Bettina Reeves Uwch Diwtor Cynllunio: “Bu tasg tymor yr haf hwn yn naw wythnos fywiog a thrwm o: gynllunio, gwneud penderfyniadau, adeiladu pypedau, gwneud gwisgoedd, gwneud pebyll, adeiladau setiau, paentio, cyflwyno pypedau a pherfformio.”

“Gwireddwyd y sioe drwy gydweithio creadigol, dychymyg dilyffethair, sgiliau, angerdd, hiwmor a gwaith caled. Bydd perfformwyr syrcas yn ymdrechu i wneud yr amhosibl yn bosibl – gallai hyn fod yn wir hefyd am ein myfyrwyr cynllunio a’u cydweithwyr.”