Yn ôl i brif wefan CBCDC

The World Goes ‘Round: Mewn Lluniau

29 Gorffennaf 2014

Ffeiliwyd o dan:

Theatr Gerddorol

Mae carfan eleni o fyfyrwyr MA mewn Theatr Gerdd wedi ymddangos yn eu perfformiad cyhoeddus cyntaf – The World Goes ‘Round, rifiw o gerddoriaeth John Kander a Fred Ebb.

Roedd y sioe yn cynnwys caneuon o sioeau cerdd Kander ac Ebb – yn cynnwys Chicago, Cabaret a New York, New York.

Fe’i cyfarwyddwyd gan Pia Furtado a gwnaed y gwaith coreograffi gan Alastair David, gyda Joe Hood yn gyfarwyddwr cerdd.

“Mae theatr yn gydweithrediad a cheir llawer o’r pleser drwy weld y cwmni llawn ar waith.”

Darllenwch yr adolygiad llawn o’r sioe gan Theatre in Wales.