Yn ôl i brif wefan CBCDC

‘Y Fringe fel y’i bwriadwyd gan Dduw’

6 Awst 2014

Ffeiliwyd o dan:

Cynllunio a Chynhyrchu

Wrth i Ŵyl Caeredin ddechrau o ddifri, mae Venue 13, a gynhelir gan fyfyrwyr cyrsiau rheoli llwyfan CBCDC, unwaith eto’n llwyfannu rhaglen ryfeddol o eclectig o bob ochr i’r Iwerydd.

Bydd y lleoliad yn gartref i gyfanswm o 150 o berfformiadau dros dair wythnos yr ŵyl. Mae’r rhaglen, sy’n cynnwys sioeau a grëwyd gan rai o artistiaid y Coleg sy’n dechrau dod i’r amlwg, hefyd yn cynnwys perfformiadau gan nifer o artistiaid a chwmnïau theatr proffesiynol eraill. Yn ogystal, mae gan y lleoliad berthynas hir â Theatr Gŵyl CalArts o Galiffornia, sy’n cyflwyno pedair sioe eleni.

Ewch i wefan Venue 13 am y manylion yn llawn a gwybodaeth am docynnau.

“Pe bai gwobr am y lleoliad ymylol sy’n cael ei redeg orau, hwn fyddai hwnnw.”
The Stage

 

“..y Fringe fel y’i bwriadwyd gan Dduw”
Three Weeks (2013)