Yn ôl i brif wefan CBCDC

Gwobr Sherman Cymru ar gyfer Actorion Ifanc

18 Medi 2014

Ffeiliwyd o dan:

Stiwdio Actorion Ifanc

Bob blwyddyn dyfernir Gwobr James Westaway i ddau fyfyriwr actio mwyaf addawol Stiwdio Actorion Ifanc Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru. Rhoddir y wobr hon er cof am James Westaway, cyn-fyfyriwr talentog yng Ngholeg Brenhinol Cymru a fu farw yn y flwyddyn 2000 ac yntau ar gamau cynnar iawn yn ei yrfa.

Bydd enillwyr eleni, Carys Bowkett o Abertawe a Ben White o Gaerdydd, yn derbyn tocynnau gan y noddwr newydd Sherman Cymru ar gyfer ei holl gynyrchiadau yn ystod tymor yr Hydref.

Arweinydd y Stiwdio Actorion Ifanc, Michael Waters, oedd un o’r tiwtoriaid a oedd yn beirniadu’r wobr. “Mae Carys a Ben wedi dangos gwir ymrwymiad a photensial ar gyfer hyfforddiant pellach. Yn fwyaf pwysig i ni’r beirniaid, mae gan y ddau ohonynt y rhinweddau personol a’r ymroddiad y mae’r cwrs yn rhoi gwerth mawr arnynt.”

Bydd Carys yn mynd i astudio actio yn LAMDA yn Llundain, tra bod Ben wedi mwynhau blwyddyn gadarnhaol iawn ar ôl chwarae’r brif rôl yn ffilm fer BBC/Made in Wales Moving On, a fydd yn cael ei darlledu yr hydref hwn. Mae’n mynd i astudio Ffilm ym Mhrifysgol Reading.

“Fe wnaeth y Stiwdio Actorion Ifanc fy helpu i fod yn fwy hyderus yn fy hun a hefyd yn fy mherfformiadau” meddai Ben wrth dderbyn y wobr. “Fe wnes ffrindiau newydd a chwrdd â phobl hynod gefnogol a roddodd gipolwg newydd i mi ar y diwydiant actio.”

“Dysgais gymaint yn ystod fy nghyfnod gyda’r Actorion Ifanc,” ychwanegodd Carys. “Mae’r tiwtoriaid yn rhyfeddol a’r myfyrwyr eraill mor gefnogol, sy’n creu amgylchedd gwirioneddol gyffrous i ddysgu ynddo. Bob tro y byddech yn cerdded i mewn i’r dosbarth nid oedd gennych syniad pa bethau newydd a chyffrous y byddech yn eu dysgu am eich hun a’ch gwaith fel perfformiwr.”