Yn ôl i brif wefan CBCDC

Adolygiad 4* ar gyfer Opera Newydd

24 Medi 2014

Ffeiliwyd o dan:

Cyfansoddi

Adolygiad gwych gan The Guardian o opera newydd gan Spyros Syrmos, a raddiodd mewn cyfansoddi.

Roedd The Blank Canvas yn opera y dechreuodd Spyros weithio arni tra’r oedd yn fyfyriwr yma yn CBCDC, fel rhan o brosiect Make An Aria gyda Syr Harrison Birtwistle a Theatr Gerdd Cymru.

Datblygodd Spyros y syniad yn dilyn ei gyfnod yn fyfyriwr ôl-radd, ac aeth y darn ymlaen i ennill Flourish 2013 – cystadleuaeth i ddod o hyd i opera siambr newydd. Mae hefyd wedi ei henwebu ar gyfer gwobr Offie.