Yn ôl i brif wefan CBCDC

Rhian yn sôn am Berfformio gyda’r ENO

24 Medi 2014

Ffeiliwyd o dan:

Astudiaethau Llais ac Opera

 

“Rwy’n dechrau bob dydd gyda brecwast da a choffi gwyn cryf.”

Dyma sut mae Rhian Lois yn paratoi ar gyfer perfformiad gyda’r ENO.

Ar hyn o bryd mae Rhian yn un o 12 o gantorion ifanc ar raglen Artistiaid Harewood yr ENO – menter ar gyfer cantorion talentog sydd ar ddechrau eu gyrfaoedd i dderbyn hyfforddiant arbenigol, cefnogaeth ac arweiniad tra’n perfformio gyda chwmni opera mawr.

Ar ôl graddio o adran astudiaethau llais y Coleg astudiodd Rhian yn y Coleg Cerdd Brenhinol ac yna ymunodd â’r Studio Opera Cenedlaethol. Mae wedi ymddangos mewn cyngerdd gyda Bryn Terfel, wedi perfformio Offeren Mozart gyda Cherddorfa Symffoni Dinas Birmingham ac wedi canu ar gyfer Ei Uchelder Brenhinol y Tywysog Charles yn ei gartref yng Nghanolbarth Cymru.

Rhoddodd Rhian ei pherfformiad cyntaf gyda’r ENO fel Ivette yn The Passenger Weinberg ac yn ddiweddar perfformiodd rôl Frasquita yn Carmen, Papagena yn y Ffliwt Hud a Nerine yn Medee i’r cwmni. Bydd yn ymddangos yn Xerxes yr hydref hwn.

Nid Rhian yw unig fyfyriwr graddedig CBCDC i ganu gyda’r ENO y tymor hwn. Mae Samantha Price yn chwarae rôl Cherubino ym Mhriodas Figaro ac yn Orfeo, a bydd Justina Gringyte yn chwarae’r rôl deitl yn Carmen.