Yn ôl i brif wefan CBCDC

Cyn Gyd-fyfyrwyr yn Chwarae Rolau Arweiniol yn Romeo and Juliet

30 Medi 2014

Ffeiliwyd o dan:

Actio

Y tymor hwn bydd ein cyfeillion yn Sherman Cymru yn cyflwyno fersiwn newydd ffres o drasiedi ramantaidd glasurol Shakespeare, Romeo & Juliet. Mae’r ymdriniaeth arloesol a hynod fodern hon o un o’i ddramâu mwyaf adnabyddus yn cynnwys nifer o raddedigion diweddar CBCDC, ac yn eu plith Chris Gordon a Sophie Melville a fydd yn chwarae’r rhannau teitl.

Cawsom air gyda hwy yn ystod yr ymarferion yn y Sherman, lle arferai Chris yn gweithio fel hebryngwr tra’n fyfyriwr:

Chris, dyma rôl eiconig ar gyfer dy berfformiad proffesiynol cyntaf. Sut mae’r hyfforddiant a gefaist yn CBCDC wedi dy helpu i ddelio â’r rôl fawr hon ar ddechrau dy yrfa, o ran y broses glyweld a pharatoi ar gyfer y rôl ei hun?

Mae cael rôl arweiniol yn fy swydd theatr gyntaf yn freuddwyd. Yn arbennig Romeo, rhan yr wyf wedi bod eisiau ei chwarae ers amser maith. Mae’r cwrs actio yn y Coleg yn eich paratoi ar gyfer prif rolau, nid rhannau bychain. Mae’n eich paratoi cystal â phosibl a’ch gwaith chi yw cadw eich cyhyrau actio yn fyw unwaith y byddwch wedi gadael – sy’n golygu gweithio gyda phwy bynnag y gallwch ddod o hyd iddynt, ac ar eich pen eich hun. Rydw i wedi gwneud ychydig o waith teledu, ond mae theatr yn rhywbeth cwbl wahanol. Mae’n rhaid hyfforddi eich llais a’ch corff, felly gwnaethom lawer o hynny yn y Coleg. Fe wnaeth hyfforddiant CBCDC fy nghynorthwyo’n fawr i fod yn feiddgar mewn rihyrsals ac mewn clyweliadau, ac i wneud dewisiadau cytbwys a diddorol a mynd amdanynt yn hyderus.

Sophie, alli di ddweud wrthym beth wyt ti wedi bod yn ei wneud ers graddio llynedd, a sut mae’r hyfforddiant yn CBCDC wedi dy helpu â hynny?

Pan adewais y Coleg roeddwn yn teimlo fy mod yn gwbl barod: roedd yr oriau a dwyster y blynyddoedd hynny wedi fy mharatoi’n dda ar gyfer fy swydd gyntaf. Gadewais ym mis Ebrill y drydedd flwyddyn i wneud tymor yr haf Theatre by the Lake, gan berfformio mewn tair o’r chwe drama hyd fis Tachwedd; roedd fel trydedd flwyddyn estynedig ac yn ddechrau mwyaf anhygoel i’m gyrfa. Yna fe wnes ychydig o waith i BBC Radio 4, rhywbeth yr oedd Marilyn Le Conte (Uwch Ddarlithydd Actio) wedi ein paratoi’n drylwyr ar ei gyfer, ac yna bûm yn teithio am saith mis gydag Under Milk Wood Theatr Clwyd. Rwy’n defnyddio’r sgiliau a ddysgais yn y Coleg a hefyd yn dysgu rhai newydd ar hyd y ffordd. Rwy’n parhau i ddysgu wrth weithio.

Mae hwn yn ddehongliad modern a beiddgar o ddrama glasurol iawn – gyda chyfarwyddwr ffres a chyffrous. Mae’n ddrama mor glasurol – beth ydych chi’n gobeithio ei gynnig iddi er mwyn apelio at gynulleidfa Shakespeare newydd ac ifanc?

Sophie: Gan siarad o brofiad, gall Shakespeare godi braw ar rywun a bod yn hollol ddryslyd pan nad yw’n glir. Felly, ein gwaith ni yw ei wneud yn ffres a chyffrous ond hefyd mor glir a chywir ag y bwriadwyd gan Shakespeare. Mae’n mynd i fod yn gynhyrchiad beiddgar a llawn egni, ac fel yr ydym wedi ei ddarganfod yn ystod yr ymarferion dyma’r ffordd orau i fod yn gywir gyda’r testun. Mae hi wedi ei hysgrifennu mor dda, y cyfan sydd angen i chi ei wneud yw talu sylw craff a dilyn cyngor Shakespeare – ac fe ddaw’r ddrama’n fyw.

Chris: Mae’r ddrama ei hun yn ymdrin â nifer o bynciau sydd yr un mor berthnasol heddiw ac yr oeddent pan gafodd ei hysgrifennu. Credaf fod cyfrifoldeb yn dod wrth chwarae rhan Romeo – i gael dynion, hen ac ifanc, i fod ag empathi â’r cymeriad, ac i wneud i fenywod deimlo eu bod wedi cyfarfod rhywun tebyg iddo. Nid ein byd ni yw byd y ddrama: mae’n frawychus, yn greulon ac yn hollol wych. Mae’n fyd lle mae’r cymeriadau’n perfformio allan o reidrwydd. Mae’r ddrama ei hun yn ymwneud â Verona, byd treisgar, sydd byth yn maddau: nid yw marwolaeth byth ymhell – ac mae’n apelio at gynulleidfa ifanc.

Sophie, sut deimlad ydyw i fod yn gweithio gydag actorion eraill o CBCDC – ac o dy flwyddyn graddio, fel Chris a Luke?

Mae’n deimlad cefnogol iawn, rydych yn dysgu llawer am ymddiried yn eich cyd-actorion yn ystod y tair blynedd yn CBCDC. Mae’n wych cael gweithio gyda hwy eto, yn arbennig gan mai dim ond un sioe y gwnes i gyda Luke a dyma’r tro cyntaf i mi weithio gyda Chris ar sioe.

Beth fyddai eich cyngor ar gyfer ein carfan newydd o fyfyrwyr actio sy’n dechrau’r mis hwn?

Sophie: Peidiwch â bod ofn gwneud ffŵl ohono’ch eich hun, gwthiwch eich hun i’r eithaf, gwnewch y gwaith ymchwil a mwynhewch gyfnod anghredadwy yn eich bywyd.

Chris: Ni fyddwch fyth y gwneud pethau’n berffaith, mae hynny’n ffaith. Felly, mae’n bwysig rhoi seibiant i’ch hun weithiau a bod yn hyderus os ydych wedi gwneud y gwaith y bydd hynny i’w weld. Mae popeth yn y Coleg yn helpu. Popeth. Felly manteisiwch i’r eithaf ac fe gewch eich gwobrwyo!

Hefyd yn ymddangos yn Romeo & Juliet mae’r cyd-fyfyrwyr Luke Eliott Bridgeman, Sara Lloyd Gregory, a’r tiwtor drama ar ymweliad Anita Reynolds.

Bydd Romeo & Juliet Sherman Cymru yn Theatr y Sherman rhwng 2 – 18 Hydref, 7.30pm. I gael rhagor o wybodaeth a thocynnau cysylltwch â 029 2064 6900 / www.shermancymru.co.uk