Cyrhaeddodd dau fand a arweinir gan fyfyrwyr o’r adran Jazz rownd derfynol cystadleuaeth gyntaf Band Cymru yr haf hwn. Roedd Band Mawr Teddy Smith a Band Clwb Rygbi James Clark ymhlith y 12 a gyrhaeddodd y rownd derfynol i gystadlu am y wobr gwerth £10,000.
Dyma rai fideos am y bandiau (mae’r cyfweliadau yn Gymraeg a Saesneg).
A dyma berfformiadau’r bandiau yn fyw yn y rownd derfynol.
Roedd y panel beirniad yn cynnwys tri arbenigwr: yr Unawdydd Tiwba o Norwy, Øystein Baadsvik; Barry Forgie, sy’n adnabyddus am ei waith gyda Big Band y BBC a’r Trympedwr Gareth Small o Gymru.
Roedd dau fand arall o’r coleg – Chwythbrennau Siambr a Phres Symffonig – hefyd ymhlith y 12 a gyrhaeddodd y rownd derfynol. Enillwyd y gystadleuaeth gan Band Cory, band preswyl CBCDC.
Rhannu ar Twitter
Rhannu ar Facebook