Mae wedi newydd gael ei gyhoeddi y bydd y feiolinydd rhyngwladol enwog Itzhak Rashkovsky yn ymuno a’r Adran Llinynnau fel Athro Cadair Ian Stoutzker yn y Feiolin.
Mae’r feiolinydd Rwsaidd-Israelaidd yn un y mae galw mawr amdano yn y DU, ac mae’n perfformio fel unawdydd ac fel chwaraewr siambr ledled y byd.
Meddai Itzhak: “Pan ofynnodd Ian i mi a fyddwn yn ymuno â’r gyfadran yng Ngholeg Brenhinol Cymru, cytunais ar unwaith heb amheuaeth. Fy ngobaith yw dod â’r Coleg i’r un lefel o angerdd ag y mae Ian wedi ei meithrin dros y blynyddoedd ac rwy’n edrych ymlaen at rannu fy ngwybodaeth, fy mhrofiad a’m cariad tuag at gerddoriaeth gyda feiolinwyr ifanc a llawn dyhead y Coleg.”
Mae Ian Stoutzker yn Gymrawd a chefnogwr CBCDC. Mae ein neuadd gyngerdd wedi’i enwi ar ôl ei ddiweddar fam Dora Stoutzker, ac mae’r Wobr Ian Stoutzker yn un o’r gwobrau mwyaf nodedig i gerddorion yn y coleg.
Rhannu ar Twitter
Rhannu ar Facebook