Yn ôl i brif wefan CBCDC

Ffilmio ‘Ten Pieces’ ar gyfer y BBC

Mae ffilm newydd sydd â’r nod o ysbrydoli plant drwy gerddoriaeth glasurol yn cael ei sgrinio yn sinemâu’r DU yr wythnos hon. Mae Ten Pieces, a gaiff ei gweld gan 100,000 o blant ledled y wlad, yn cynnwys perfformiadau gan Gerddorfa a Chorws Cenedlaethol Cymreig y BBC a recordiwyd mewn awyrendy yng nghanolfan yr Awyrlu Brenhinol Sain Tathan ychydig y tu allan i Gaerdydd.

Mae’r gerddorfa, a arweinir gan Thomas Søndergård, yn cynnwys graddedigion diweddar o adrannau chwythbrennau, pres ac offerynnau taro CBCDC yn ogystal â nifer o athrawon ar ymweliad rheolaidd y Coleg.

Graddiodd y chwaraewr timpani Christina Slominska, a welir yn y llun uchod ar set Ten Pieces, o CBCDC yn 2011. “Mae bod yn rhan o Ten Pieces yn anhygoel, roedd y broses ffilmio mor gyffrous,” meddai. “Mae’r ffilm yn rhyfeddol ac yn berffaith ar gyfer y grŵp oedran – mae nifer o’m disgyblion iau wedi ei gweld hi eisoes ac wedi ei mwynhau’n fawr.”

“Rwy’n edrych ymlaen at weld yr ymatebion creadigol i’r ffilm. O weld ymateb fy nisgyblion rwy’n sicr y bydd cariad at gerddoriaeth glasurol yn cael ei gwreiddio ynddynt o oedran cynnar ac y byddant yn mwynhau cerddoriaeth am weddill eu hoes. Syniad gwych, canlyniad rhagorol, rydw i wrth fy modd i fod yn rhan ohono!”

Bu Laura Curry, sydd ar hyn o bryd yn ail flwyddyn ei hastudiaethau ôl-radd yn y Coleg, yn perfformio yn y corws ar gyfer recordiad o Zadok yr Offeiriad. “Rydym wedi perfformio gyda’r corws yn y gorffennol yn Neuadd Dewis Sant ac yn y Proms yn Neuadd Albert,” meddai Laura, “ond roedd hwn yn lleoliad cwbl unigryw, ac roedd hi’n braf bod yn rhan o rywbeth a oedd wedi ei anelu at gynulleidfa cerddoriaeth glasurol cwbl newydd.”

Roedd Emily Wenman hefyd yn rhan o’r corws. “Pan oeddem yn ffilmio yn yr awyrendy, roedd hi’n anodd dychmygu sut y byddai’n edrych ar ffilm,” meddai Emily, “ond mae’r canlyniad yn wirioneddol wych. Rwy’n falch iawn fy mod wedi bod yn rhan mewn menter mor uchel ei phroffil ym maes addysg cerddoriaeth glasurol.”

Gellir gwylio’r ffilm ar BBC iPlayer hyd ddiwedd mis Hydref. Mae hefyd ar gael am ddim i ysgolion ar DVD.