Yn ôl i brif wefan CBCDC

Lizzie a Cadi yn sôn am Gynllunio ‘Black Stuff’

15 Hydref 2014

Ffeiliwyd o dan:

Cynllunio a Chynhyrchu

Ar gyfer eu swydd gyntaf ar ôl graddio yr haf hwn, mae’r cynllunwyr Cadi Lane a Lizzie French wedi bod yn gweithio gyda Volcano Theatre. Mae’r ddwy wedi cynllunio Black Stuff – perfformiad safle benodol ynglŷn â glo, celf a gwleidyddiaeth, sy’n mynd â chynulleidfaoedd ar daith fudr o dan ddaear drwy theatr byncer newydd mewn adeilad segur yng nghanol dinas Abertawe.

Yma maent yn sgwrsio am y broses greadigol o gynllunio eu sioe broffesiynol gyntaf.

“Mae gweithio ar Black Stuff wedi bod yn broses wahanol iawn i weithio ar sioeau’r Coleg, ond roedd y sgiliau y gwnaethom eu dysgu ar y cwrs yn sicr yn ddefnyddiol. Sioe ddyfeisiedig yw hi, sy’n golygu bod yn rhaid i’r cynllun aros yn weddol hyblyg. Roedd pethau yn newid ac yn datblygu drwy’r amser, ac roedd hyn yn gwneud y broses yn greadigol a chyffrous.

“Roedd hi’n amlwg o’r diwrnod cyntaf y gwnaethom gamu i mewn i’r gofod na fyddai’n debyg o gwbl i gynllunio theatr nodweddiadol. Ni cheir y diogelwch o wybod lle bydd y gynulleidfa, gan y gallant fynd i unrhyw le. Er y cawsom lawer iawn o ryddid, gallai fod yn anodd weithiau i gyfyngu a gwneud penderfyniadau terfynol. Mae wedi bod yn ofod heriol ond cyffrous iawn i weithio ynddo. Nid oeddem am addurno neu ychwanegu pethau diangen dim ond er mwn gwneud hynny, gan fod i’r gofod gymaint o gymeriad naturiol yn barod.

“Dechreuom gyda’r weledigaeth o greu gofod a fyddai’n cymryd rhai elfennau o bwll glo ond creu rhywbeth newydd a chyfoes, a oedd yn cyfeirio mewn gwahanol ffyrdd i’r pyllau, gan ddefnyddio deunyddiau fel glo, rhaff, pren ac ati. Roeddem am greu gofod a oedd yn mynd â’r gynulleidfa i fan nad oeddent mor gyfforddus ynddo, ond nad oedd yn llythrennol gynrychioliad o unrhyw beth. Fe wnaethom, fodd bynnag, symud tua 3 tunnell o lo – ac yn sicr gwelsom ei ôl ar lawr yr ystafell ymolchi!”

Nid Cadi a Lizzie yw unig raddedigion CBCDC i fod yn rhan o’r sioe. Mae’r actorion Robin Willingham a Neal McWilliams yn ymddangos ynddi, y cynllunydd goleuo yw Ben Stimpson a raddiodd yn 2014, ac mae’r rheolwr llwyfan Fiona McCulloch a’r rheolwr cynhyrchu John Kirk hefyd yn gyn-fyfyrwyr.