Mae Clare Dunne, a raddiodd mewn Actio o CBCDC, yn chwarae rhan y Tywysog Hal yng nghynhyrchiad menywod yn unig Donmar Warehouse o Henry IV. Yn y cynhyrchiad, sydd wedi ei leoli mewn carchar, mae Clare yn chwarae rhan Hal strydgall, ochr yn ochr â’r Fonesig Harriet Walter fel y Brenin Henry.
“Mae Clare Dunne, yn defnyddio acen Dulyn gref, yn argyhoeddiadol wrth iddi fynd o ferch yn ei harddegau llawn problemau i frenin preswyl dros gyfnod cywasgedig o ddwyawr y cynhyrchiad”
BBC Online
Dyma’r ail gynhyrchiad menywod yn unig y mae Clare wedi gweithio arno gyda’r cyfarwyddwr Phyllida Lloyd – gwnaeth hefyd ymddangos yng nghynhyrchiad menywod yn unig Donmar o Julius Caesar yn 2012.
“…mae [aelodau cast] llai adnabyddus yn disgleirio hefyd…mae Clare Dunne yn Hal hudolus, gyda’i hacen Wyddelig”
The Telegraph
Rhannu ar Twitter
Rhannu ar Facebook