Yn ôl i brif wefan CBCDC

Gŵyl Cymry Llundain Neuadd Albert mewn Lluniau

23 Hydref 2014

Ffeiliwyd o dan:

Arwain
Astudiaethau Llais ac Opera

Ddydd Sadwrn fe fu Edward-Rhys Harry, cyn-fyfyriwr arwain CBCDC, yn arwain Gŵyl Corau Meibion Cymry Llundain yn Neuadd Frenhinol Albert. Roedd yr ŵyl, gyda phob tocyn wedi ei werthu, yn dathlu ei phen-blwydd yn 45 oed eleni ac yn cynnwys Côr Meibion Cymry Llundain ynghyd â 13 o gorau gwadd o’r DU, Norwy, Sweden a De Affrica.

Cyfeiliwyd i’r corau gan Sinffonieta Prydain, cerddorfa broffesiynol annibynnol a reolir gan y cyn-fyfyriwr offerynnau taro Dave Danford ac sy’n cynnwys dros 20 o gyn-fyfyrwyr y Coleg.

Roedd yr unawdwyr, Trystan Llyr Griffiths a Rhiannon Llewellyn, hefyd wedi hyfforddi yn CBCDC. Mae’r tenor Trystan, a gwblhaodd ei MA mewn Perfformio Opera yn y Coleg yn gynharach eleni, yn astudio ar hyn o bryd yn Stiwdio Opera Genedlaethol Llundain.

Rhiannon Llewellyn, soprano, a Trystan Llyr Griffiths, tenor, mewn rihyrsal yn Neuadd Frenhinol Albert

Darlledir y cyngerdd ar S4C yn ddiweddarch yn y flwyddyn, ac yna fe’i rhyddheir ar DVD.

Lluniau: John Downing