Yn ôl i brif wefan CBCDC

Mewn Lluniau: Cerfluniau Papur

6 Tachwedd 2014

Ffeiliwyd o dan:

Cynllunio a Chynhyrchu

Y dyddiau hyn, bydd pawb sy’n ymweld â’r Coleg yn cwrdd â ‘Chreaduriaid Rhyfedd’ gan fod Oriel Linbury wedi ei llenwi â cherfluniau anferth o adar ac angenfilod.

Gwaith myfyrwyr BA ac MA mewn Cynllunio Theatr yw’r gigfran, llygoden fawr, llyffant, pili pala, cacynen a malwoden anferth fel rhan o’u prosiect cyntaf wedi iddynt gyrraedd CBCDC. Cafodd y cynllunwyr wyth niwrnod i greu’r cerfluniau, gan ddefnyddio dim ond papur, cardfwrdd a thâp.

Bu’r myfyrwyr yn cydweithio â myfyrwyr cyfansoddi a chynllunio golau er mwyn cwblhau’r gosodiad.