Yn ôl i brif wefan CBCDC

Cerddorion ac Actorion Ifanc yn Perfformio yn Ystod Ymweliad Brenhinol

13 Tachwedd 2014

Ffeiliwyd o dan:

Cerddoriaeth
Stiwdio Actorion Ifanc

Perfformiodd myfyrwyr o’r Coleg ar gyfer Dug a Duges Caergrawnt y penwythnos diwethaf pan fu’r pâr brenhinol ar ymweliad â Chaerdydd a Sir Benfro.

Bu’r ddau’n ymweld â phurfa olew Valero – y cwmni sy’n cefnogi ein Stiwdio Actorion Ifanc yn Sir Benfro.

Perfformiodd y Delynores Megan Morris, y ffliwtydd Alexandra Griffiths, a’r cerddorion jazz James Clark, Pete Komor a Rod Oughton mewn derbyniad ar gyfer y gwahoddedigion.

Pan gyrhaeddodd y pâr Brenhinol cawsant gyfle i wylio tri myfyriwr o gangen Sir Benfro ein Stiwdio Actorion Ifanc – Ben Bubb, Yasemin Ozdemir a Henry Whittaker – yn perfformio’r darnau y maent yn gweithio arnynt yn eu dosbarthiadau Technegau Clyweliad.

Perfformiodd Yasemin (prif lun, uchod) araith gyfoes o The Eye of the Beholder Heidi Dekker i’r pâr. Meddai “Roedd yn brofiad hollol swreal, cyfle unwaith mewn bywyd. Roedd yn gymaint o anrhydedd i berfformio gerbron Dug a Duges Caergrawnt – cyfle na fyddaf efallai yn ei gael eto a chyfle mor wych i arddangos ein dawn.”