Yn ôl i brif wefan CBCDC

‘Mae canu’r piano yn rhan annatod ohonof…’

8 Ionawr 2015

Ffeiliwyd o dan:

Cerddoriaeth
Conservatoire Iau
Piano

Mae’r fyfyrwraig piano Rachel Starritt wedi bod yn canu’r piano ers ei bod yn chwe mlwydd oed, gan ennill rhagoriaeth mewn arholiad gradd pump yn naw oed. Pan yn ddeg oed ymunodd â Chonservatoire Iau Coleg Brenhinol Cymru a llwyddodd yn ei arholiad gradd wyth yn 14 oed, ac erbyn hyn mae yn ei blwyddyn gyntaf ar gwrs gradd yn y Conservatoire Cenedlaethol.

Ganwyd Rachel yn ddall, a chred bod y nam ar ei golwg wedi gwneud ei synhwyrau clyw a chyffwrdd yn fwy craff – gall ddysgu concerti cyfan gan ddefnyddio ei chlust yn unig, mae ei thraw yn berffaith, mae wedi chwarae i gynulleidfaoedd llawn yn St Martin in the Fields, Llundain, ac mae hefyd wedi cynnal cyngherddau yng Nghyntedd Canolfan y Mileniwm yng Nghaerdydd. A hithau wedi meistroli cerddoriaeth braille drwy gyffyrddiad, Rachel yw’r myfyriwr dall cyntaf i astudio am radd cerddoriaeth yma yn CBCDC, a’i gobaith yw cael gyrfa fel pianydd cyngerdd.

Rachel yn cwrdd â Thywysog Charles pan oedd yng Nghonservatoire Iau CBCDC

Rachel yn cwrdd â Thywysog Charles pan oedd yng Nghonservatoire Iau CBCDC

Bu Rachel yn gweithio gyda’i thiwtor Alison Bowring (sy’n eistedd gyda Rachel yn y prif lun) ers iddynt gwrdd yn y Conservatoire Iau  yn ei blwyddyn gyntaf yno. Gyda’i gilydd gwnaethant ddarganfod beth oedd y ffordd orau i ddysgu drwy sŵn a chyffyrddiad – dulliau y mae Alison erbyn hyn yn eu defnyddio gyda’i disgyblion sydd heb nam ar eu golwg: ‘Fe fyddaf yn dweud wrthynt am chwarae gyda’u llygaid ar gau weithiau. Unwaith y byddwch yn cael gwared ar y pethau gweledol sy’n tynnu’r sylw byddwch yn synhwyro’r cyffyrddiad yn gryfach.’

Mae clyw Rachel mor fain fel y gall ddosbarthu nodyn yn gywir dim ond trwy ei glywed – dawn sydd gan ddim ond un ym mhob 10,000 o bobl.

I ddarllen stori lawn Rachel gweler yr erthygl yn y South Wales Echo.