Yn ôl i brif wefan CBCDC

Dyfarnu Cymrodoriaeth Anrhydeddus i David Pountney

21 Ionawr 2015

Ffeiliwyd o dan:

Astudiaethau Llais ac Opera
Cerddoriaeth

Mae David Pountney, Prif Weithredwr a Chyfarwyddwr Artistig Opera Cenedlaethol Cymru, wedi derbyn Cymrodoriaeth er Anrhydedd gan Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru fel cydnabyddiaeth am ei gyfraniad fel artist ac arweinydd diwylliannol.

David Pountney â myfyriwr lleisiol Michael Lowe (chwith) a myfyriwr graddedig David Doidge

Yn y digwyddiad bu’r myfyriwr llais Michael Lowe yn diddanu’r gwahoddedigion, yn canu darnau o Sweeny Todd gan Sondheim, gyda’r repetiteur David Doidge yn cyfeilio iddo. Roedd Michael, a fynychodd Gonservatoire Iau y Coleg, hefyd yng nghôr iau y WNO a bu’n canu yng nghynhyrchiad y cwmni o The Sleeper. Yno cyfarfu â myfyrwyr o’r Coleg a wnaeth ei annog i glyweld am le ar y cwrs cerddoriaeth. Graddiodd David o Goleg Brenhinol Cymru y llynedd ac erbyn hyn mae’n repetiteur llawn amser gyda’r WNO.

David Pountney yn sgwrsio â myfyrwyr cerdd ar ôl derbyn ei Gymrodoriaeth

Wrth dderbyn y gymrodoriaeth pwysleisiodd David Pountney bwysigrwydd rôl y Coleg mewn chwistrellu ‘ffrwd hollbwysig o dalent ifanc i wythiennau ein bywyd diwylliannol.’

“Mae’n fraint fawr iawn i mi dderbyn yr anrhydedd hon,” meddai, “Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yw gwir gonglfaen proffil rhyngwladol hynod uchel Cymru ym myd y celfyddydau.”