Yn ôl i brif wefan CBCDC

Rheoli Llwyfan ‘Y Dylathon’

22 Ionawr 2015

Ffeiliwyd o dan:

Cynllunio a Chynhyrchu

Ni ellir gorbwysleisio’r cyfraniad a wnaed gan Dylan Thomas i hunaniaeth ddiwylliannol Cymru ac i lenyddiaeth yr ugeinfed ganrif. Yn 2014 – y flwyddyn y byddai wedi dathlu ei ben-blwydd yn 100 oed – cynhaliwyd gŵyl blwyddyn o hyd o ddigwyddiadau arbennig, a guradwyd o dan ymbarél DT100, a roddodd lu o gyfleoedd ffres i gynulleidfaoedd ymdrwytho eu hunain yn ei gasgliad anferth o waith.

Diweddglo gŵyl DT100 oedd ‘Dylathon’ 36 awr o hyd agynhailiwyd yn Theatr y Grand Abertawe, gyda chast dethol o ddarllenwyr a pherfformwyr yn cynnwys Syr Ian McKellen, Sian Phillips, aelodau o Gwmni Theatr Cymru, y gantores Katherine Jenkins,y comediwyr Jo Brand a Kevin Eldon, ysgrifenwyr, darlledwyr, gwleidyddion, ac arwyr y byd chwaraeon yng Nghymru.

Sebastian Noel, sydd yn ei flwyddyn olaf yn CBCDC, oedd Cynllunydd y digwyddiad, ac ymunodd y myfyrwyr Rheoli Llwyfan, Lucie Watson a Sam Griesser, â’r tîm rheoli llwyfan gyda phob aelod ohono yn raddedigion CBCDC.

“Roedd yn her gwbl newydd i bawb oedd yn rhan yn y fenter, ond yn arbennig i mi a Lucie oherwydd bod ein cefndir mewn theatr lle gwneir y rhan fwyaf o’r gwaith mewn rihyrsals,” meddai Sam. “Nid oedd ymarferion ar gyfer y ‘Dylathon’ ac roedd y cast newid bob 5 munud, felly roedd yn rhaid i ni fod ar flaenau’n traed drwy’r amser.”

“Roeddwn i’n rhan o’r shifft nos gan ddechrau am 10pm nos Sul,” meddai Watson. “Erbyn oriau mân y bore roedd pawb yn flinedig iawn. Roedd pobl yn cysgu mewn sachau cysgu yng nghefn llwyfan. Roedd yn brofiad swreal – ar un adeg roedd yn rhaid i mi ddeffro un o aelodau’r cast ar gyfer ei alwad.”

“Roedd yn brofiad gwych i weithio ochr yn ochr â rheolwyr llwyfan profiadol a chael gweld drosof fy hun sut yr oeddent yn ymdrin â sefyllfaoedd annisgwyl. Rydym wedi cael ein dysgu i ymddwyn fel elyrch – yn dawel ar y wyneb ond yn cicio fel fflamiau o dan y dŵr. Roedd gweithio yn y tîm rheoli llwyfan proffesiynol yn ddosbarth meistr mewn gwneud hynny.”