Yn ôl i brif wefan CBCDC

Cwmni Richard Burton: Lluniau Tymor yr Hydref

4 Chwefror 2015

Ffeiliwyd o dan:

Actio

Eleni cyflwynodd Cwmni Richard Burton ei dymor cyntaf o berfformiadau, a’i gwelodd yn mynd i’r afael â dramâu clasurol a chyfoes, gan weithio gyda chyfarwyddwyr proffesiynol ar ymweliad.

Gwelwyd dau bremiere y DU: Dogville (ffilm gyda Nicole Kidman yn wreiddiol) ac Unity (1918) gan Lars Von Trier – y ddwy ddrama wedi eu lleoli mewn trefi bach yng ngogledd America ar ddechrau’r ugeinfed ganrif. Roedd Dogville yn adrodd hanes trigolion tref fechan yn nhalaith Colorado yn ystod blynyddoedd y dirwasgiad sy’n cytuno i guddio menyw sydd ar ffo, tra bod Unity (1918) yn ymdrin â thref yng Nghanada sy’n brwydro i oroesi yn ystod epidemig ffliw 1918.

Lleolwyd Strange Orchestra yn Llundain fohemaidd y 1930au, ac yn The Winter’s Tale cyfarwyddodd Joe Murphy o nabakov glasur canol gaeaf Shakespeare gyda thro gwahanol.

 

Dyma oedd ymateb y Twittersphere…