Yn ôl i brif wefan CBCDC

Yr Ysgrifennwr William Boyd yn Siarad am Chekhov

4 Chwefror 2015

Ffeiliwyd o dan:

Actio

Daeth y nofelydd a’r ysgrifennwr sgrin poblogaidd William Boyd ar ymweliad â’r Coleg yr wythnos hon i sgwrsio gyda myfyrwyr actio a oedd yn perfformio yn Longing, ei ddrama gyntaf, sy’n rhan o Dymor Gwanwyn Cwmni Richard Burton.

“Rhan o’r apêl yr wyf wedi ei ganfod mewn ysgrifennu ar gyfer y theatr yw ei hydrinedd,” meddai wrth iddo wylio’r myfyrwyr mewn rihyrsal, “gallwch ei symud a’i newid bob noson. O’i gymharu â nofel neu ffilm mae’n symud yn ddiddiwedd ac yn ysgogol o amrywiol.”

Mae Boyd newydd ddychwelyd o ymweliad â Rwsia lle mae tri pherfformiad gwahanol o Longing yn digwydd ar hyn o bryd, ac roedd yn fwy na pharod i fwydo’r profiad hwn i rihyrsal y myfyrwyr.

Wrth egluro ei ddiddordeb mawr yn Chekhov dywedodd, “I mi, ysgrifennodd Chekhov rhai o’r storïau byrion gorau a ysgrifennwyd erioed. Caiff y gair ‘athrylith’ ei or-ddefnyddio, ond yn y bôn, fel Shakespeare a Dickens, mae Chekhov yn newid y ffordd yr ydych yn gweld y byd. Roedd ei storïau yn chwyldroadol o ran ffurf: nid yw’n beirniadu ei gymeriadau ac mae ganddo safbwynt ysmala, sinigaidd, abswrdaidd, modern iawn tuag at y byd.”

Cynhelir Tymor Gwnawyn Cwmni Richard Burton rhwng Dydd Mawrth 10 a Ddydd Llun 16 Chwefror.