Yn ôl i brif wefan CBCDC

Dau yn Cyrraedd Rownd Gynderfynol Gwobr Pres Ifanc y BBC

5 Chwefror 2015

Ffeiliwyd o dan:

Pres

Mae dau fyfyriwr o’r adran press, Jack Lapthorn (uchod ar y dde) a Grant Jameson (chwith), wedi cyrraedd rownd gynderfynol cystadleuaeth o fri Gwobr Pres Ifanc Radio 2 y BBC, yr ymgais genedlaethol flynyddol i ddod o hyd i’r perfformwyr ifanc mwyaf talentog.

Yn ystod y rownd gynderfynol – a gaiff ei recordio yn Stiwdio Philharmonic y BBC yn Salford a’i darlledu ar Radio 2 ym mis Chwefror – bydd Jack a Grant yn ymuno â chwe pherfformiwr ifanc arall i berfformio gyda’r Brighouse and Rastrick Band, un o brif fandiau pres y DU.

Meddai Jack: “Mae’n gyffrous iawn, gan y bydd pob un ohonom yn recordio 10 munud o gerddoriaeth o’n dewis ein hunain gyda band enwog Brighouse and Rastrick. Rydym wrth ein bodd ein bod wedi cyrraedd rownd gynderfynol y gystadleuaeth o fri hon a welodd gynifer o enillwyr y gorffennol yn mynd ymlaen i gyflawni pethau mawr yn y diwydiant cerddoriaeth.”

Dyma Grant yn siarad â’r cyflwynydd Clare Freeman ac yn perfformio darn gan y cyfansoddwr o Gymru Karl Jenkins.

Mae gan y gystadleuaeth enw da am ganfod talent sy’n dod i’r amlwg yn y DU. Mae enillwyr blaenorol y wobr yn cynnwys Katrina Marzella (Baritone Unawdol gyda Black Dyke), Ben Thomson (Prif Diwba Cerddorfa’r Royal Opera House), a Lewis Musson (Ewffoniwm Unawdol, Band Canolog yr Awyrlu Brenhinol).