Yn ôl i brif wefan CBCDC

Yr Observer yn Canmol “Carfan Euraidd o Sêr Cymreig”

4 Mawrth 2015

Ffeiliwyd o dan:

Actio

Mae’n swyddogol – mae actorion y Coleg Brenhinol ar y llwybr cywir i ddominyddu’r byd. Roedd adroddiad ym mhapur newydd yr Observer y Sul diwethaf yn trafod “gwythïen newydd o dalent Gymreig”, yn cynnwys nifer o raddedigion diweddar CBCDC.

Dyma grynodeb o bwy sy’n gwneud beth ac ymhle.

1. Mae Aysha Kala (graddiodd 2012) yn chwarae rhan Sooni yn nrama epig Channel 4, Indian Summers.

2. Mae Kimberley Nixon (2007) yn hen gyfarwydd â’r sgrin fach gyda rolau yn Fresh Meat a Hebburn, ac mae’n dychwelyd i fyd teledu yn y ddrama feddygol a ysgrifennwyd gan Jed Mercurio o’r enw Critical ar gyfer Sky 1 (prif lun, uchod).

3. Ar hyn o bryd mae Tom Rhys Harries (2012) yn ffilmio diweddariad 10 rhan o Jekyll and Hyde ar gyfer ITV. Mae’r cynhyrchaiad Jekyll and Hyde ar ei newydd wedd hwn yn dod â’r cyffro i Lundain yn y 1930au. Eleni hefyd bydd yn chwarae rôl eponymaidd Crow mewn ffilm sy’n addasiad o ddrama Tim Rhys.

4. Efallai y bydd cefnogwyr Fresh Meat yn gyfarwydd ag Anjana Vasan (MA Actio 2011) fel “Geology Girl.” Ers hynny mae Anjana wedi cael rolau yn yr RSC a nawr gellir ei gweld ar lwyfan Theatr Olivier yng nghynhyrchiad National Theatre London o Behind the Beautiful Forevers. Caiff y ddrama ei sgrinio mewn sinemâu ledled y wlad fel rhan o NT Live ar 12 Mawrth.

https://youtu.be/w8aAOq8Zg6g

5. Mae Amy Morgan (2008) a Thalissa Teixeira (2014) yn ymddangos yn The Broken Heart, archwiliad o dor-calon sydd wedi’i lleoli yn Sparta Hynafol gan John Ford, ar gyfer Globe Shakespeare.

6. Mae Rosie Wyatt (2010) yn chwarae rhan Maria yn nhaith y DU o The Boy in Striped Pyjamas, a agorodd yng Ngŵyl Theatr Chichester ym mis Chwefror.

7. Mae Alex Hope (2014) yn chwarae rhan Scripps yn nhaith y DU o ddrama gomedi Alan Bennett The History Boys, sy’n teithio Chwefror – Mehefin.

8. Mae Lewis Reeves (2011) yn rhan o gomedi boblogaidd Kevin Elyot My Night with Reg yn The Apollo – mae’r ddrama wedi symud o’r West End ar ôl cyfnod lle gwerthwyd pob tocyn gan dderbyn clod mawr gan y beirniaid yn y Donmar Warehouse. Mae llwyddiant My Night with Reg wedi croesi’r Iwerydd, lle gwelwyd sôn amdani yn y New York Times.

9. Mae Annes Elwy (2014) yn ymddangos yn nrama wobrwyedig Anna Jordan, Yen, yn y Manchester Royal Exchange. Disgrifiodd The Guardian ei pherfformiad fel “gwefreiddiol”.

10. Mae’r dramodydd Moira Buffini (ffilm Tamara Drewe, Welcome to Thebes), a’r cyn-fyfyriwr Actio, wedi cyhoeddi wonder.land – sioe gerdd newydd sydd wedi’i seilio ar Alice in Wonderland gyda cherddoriaeth gan Damon Albarn. Cynhelir perfformiad cyntaf wonder.land yng Ngŵyl Ryngwladol Manceinion ym mis Gorffennaf.

Mae’r erthygl yn The Observer hefyd yn enwi’r graddedigion Lloyd Everitt, Alexander Vlahos, Tom Cullen, Aneurin Barnard, Ruth Jones ac Eve Myles – pob un ohonynt yn chwifio’r faner dros Goleg Brenhinol Cymru. Hyn i gyd heb sôn am ein Hathrawon Cadair Rhyngwladol Drama – Michael Sheen a Matthew Rhys.