Yn ôl i brif wefan CBCDC

Dwy Wobr Goleuo i Raddedigion

5 Mawrth 2015

Ffeiliwyd o dan:

Cynllunio a Chynhyrchu

Derbyniodd dau o raddedigion CBCDC glod am eu gwaith yng ngwobrau TPI a Gwobrau Theatr yr Irish Times y mis hwn.

Enillodd Tim Routledge (llun uchod) wobr Cynllunydd Goleuo y Flwyddyn pan gynhaliwyd gwobrau TPI – ymgynulliad blynyddol y diwydiant digwyddiadau byw – am y pedwerydd tro ar ddeg. Mae’r gwobrau’n gwobrwyo’r unigolion a’r cwmnïau mwyaf talentog a llwyddiannus yn y diwydiant.

Mae Tim yn gweithio fel cynllunydd goleuo a rhaglennwr ar gyfer darllediadau, teithiau, cyngherddau a digwyddiadau ledled y byd. Mae uchafbwyntiau nodedig yng ngyrfa amrywiol Tim yn cynnwys cynllunydd ar gyfer seremonïau agor a chloi Gemau’r Gymanwlad 2014, cyngerdd agoriadol Cwpan Ryder a rhaglennu seremonïau agor a chloi Gemau Olympaidd Llundain 2012.

Enillodd Ciaran Bagnall (canol y llun) wobr y Cynllunydd Goleuo Gorau am ei waith ar Pentecost ar gyfer y Lyric Belfast.

Dyfarnwyd gwobr y Cynllun Goleuo Gorau i Ciaran Bagnall yng Ngwobrau Theatr yr Irish Times am ei waith ar gynhyrchiad cymeradwyedig y Lyric Theatre o Pentecost. Ers graddio mae Ciaran wedi creu argraff fel cynllunydd set a goleuo ar gyfer cwmnïau megis yr RSC, National Theatre a’r Bush Theatre.