Yn ddiweddar cafodd canwyr soddgrwth CBCDC y fraint o dreulio prynhawn gyda Natalie Clein.
Ystyrir Natalie, a gafodd sylw eang yn 16 oed ar ôl iddi ennill Cerddor Ifanc y Flwyddyn y BBC ym 1994, yn un o ganwyr soddgrwth mwyaf poblogaidd Prydain. Mae wedi recordio tair CD ar gyfer EMI Classics ac ym mis Medi 2014 cyhoeddodd recordiad o ddau Concerto Soddgrwth gan Camille Saint-Saëns gyda Cherddorfa Symffoni yr Alban y BBC ac Andrew Manze.
Neilltuodd Natalie amser o’i hamserlen brysur (sy’n cynnwys curadu cyngherddau ar gyfer Radio’r BBC yn LSO St Luke’s) i arwain dosbarth meistr gyda myfyrwyr yn dilyn ei chyngerdd awr ginio.
Cymerodd Natalie Halliday, myfyrwraig MMus blwyddyn gyntaf a sylfaenydd Acacella, ran gan chwarae Sonata Britten.
“Chwaraeais Britten oherwydd bod Natalie yn chwarae darn gan Britten y diwrnod hwnnw ac roeddwn wedi hoffi’n fawr y ffordd y clywais hi’n ei berfformio yn y gorffennol. Roedd hi’n brawf ar fy nerfau ond gwyddwn y byddai’n berson da i gael cyngor ganddi. Mae Dosbarthiadau Meistr yn sicr yn ychwanegu rhywbeth gwahanol. Mae’n dda cael gwahanol bobl i roi eu barn. Mae’n ysbrydoliaeth fawr i gael yr holl berfformwyr llwyddiannus hyn yn dod yma a chael y cyfle nid dim ond i’w gweld yn chwarae, ond hefyd i berfformio iddynt, mae’n brofiad rhyfeddol.”
Rhannu ar Twitter
Rhannu ar Facebook