Yn ôl i brif wefan CBCDC

“Y cwrs gorau yn y wlad ar gyfer cynllunio theatr!”

17 Mawrth 2015

Ffeiliwyd o dan:

Cynllunio a Chynhyrchu

Cafodd ein myfyrwyr cynllunio theatr ymweliad gan y cynllunydd o fri Ralph Koltai, sydd wedi cynllunio tua 250 o gynyrchiadau mewn gyrfa ryngwladol yn ymestyn dros 65 o flynyddoedd. Mae’n dal i weithio yn y maes heddiw ac yntau’n 90 oed – ei brosiect diweddaraf yw cynllunio dwy sioe ar gyfer tymor 2015/16 Opera Cenedlaethol Cymru. Bu’n siarad am fod yn artist…

“Un peth hyfryd am fod yn artist yw nad ydych fyth yn ymddeol. Mae celfyddyd yn siarad â mi. Ni fu erioed benderfyniad ynglŷn â’i wneud ai peidio. Nid oes gennyf ddewis. Mae’n rhaid i mi.”

Rhoddodd gyngor i’r rheini sydd a’u bryd ar fod yn gynllunwyr…

“Nid yw lwc yn digwydd. Chi sy’n creu lwc. Rydych yn gwneud pethau ac yn mynd i leoedd, ac wrth wneud hynny mae pethau’n digwydd. Mae’n rhaid i chi fod yn effro i gyfleoedd newydd.”

Roedd Ralph hefyd yn fwrlwm o frwdfrydedd tuag at CBCDC…

“Rwyf wedi bod mewn nifer o golegau, ond hwn yw’r sefydliad gorau ar gyfer eich cwrs chi. Rydych chi gyd yn ffodus i fod yn astudio yma, ar y cwrs gorau yn y wlad ar gyfer cynllunio theatr.”