Yn ôl i brif wefan CBCDC

Cyfansoddi ar Gyfer Canmlwyddiant y Gwarchodlu Cymreig

18 Mawrth 2015

Ffeiliwyd o dan:

Cerddoriaeth
Cyfansoddi

Ar Ddydd Sul 7 Mawrth roedd llygaid pawb ar lwyfan Neuadd Dora Stoutzker wrth i’r Coleg chwarae rhan allweddol i ddathlu Canmlwyddiant y Gwarchodlu Cymreig gyda chyngerdd a oedd yn cyfuno cerddoriaeth fyw a pherfformiadau cyffrous gan ein hactorion ail flwyddyn.

Roedd y cyngerdd yn cynnwys Band y Gwarchodlu Cymreig ac Ensemble Pres CBCDC yn perfformio repertoire traddodiadol ochr yn ochr â gwaith a gomisiynwyd yn arbennig gan y myfyrwyr cyfansoddi Charlie Jackson a Daniel Soley.

Cyfansoddodd Charlie, cyfansoddwr yn ei flwyddyn olaf, yr ymdeithgan. Bu’n sôn wrthym am yr her o ysgrifennu ar gyfer pres symffonig:

“Nid fyddaf yn ysgrifennu llawer ar gyfer offerynnau pres, ond rhan o’m cynllun ar gyfer eleni yw ysgrifennu ar gyfer cymaint o bethau gwahanol â phosibl. Dychmygais hwn fel digwyddiad i fyfyrio a dathlu felly roeddwn am i’m darn gyfleu’r ddwy elfen hynny.”

Mwynhaodd Charlie y broses o weithio’n agos gydag ensemble, mynychu rihyrsals a gwylio’r gwaith yn datblygu.

“Y peth gorau am hyn oedd fy mod ym mhob rihyrsal wythnosol yn gallu datblygu a newid rhannu o’r darn. Teimlais fy mod wirioneddol yn rhan o’r prosiect. Byddwn yn bendant yn hoffi gweithio yn y modd hwn yn y dyfodol, mae’n ffordd ddefnyddiol iawn i ddysgu a gweithio ar gyfer ensemble penodol.”

Cyfansoddodd y myfyriwr ail flwyddyn Daniel Soley y ffanffer. Er iddo gyfansoddi’r ymdeithgan ar gyfer seremoni raddio llynedd yn Neuadd Dewi Sant, roedd ysgrifennu ar gyfer y Canmlwyddiant yn her:

“Roedd yn rhaid i mi blesio ensemble pres 20 darn, bataliwn llawn, gwahoddedigion a llu o enwogion o Gymru. Roeddwn hefyd wrth gwrs ennyn balchder mewn cenedl gyfan y mae’r gwarchodlu’n ei chynrychioli!”

Gweithiodd Daniel gydag ensemble Pres Symffonig y Coleg i rihyrsio’r darn, a anfonwyd wedyn i Fand y Gwarchodlu Cymreig i’w rihyrsio.

Roedd yn gyffrous iawn i’w dychmygu yn ei rihyrsio yn eu barics yn Llundain, yn union fel roeddem ni yma.