Yn ôl i brif wefan CBCDC

Ymweliad gan Rob Brydon

19 Mawrth 2015

Ffeiliwyd o dan:

Actio
Theatr Gerddorol

Roedd cymrawd, cyfaill a chyn-fyfyriwr y coleg Rob Brydondraw yn y coleg neithiwr, yn arwain dosbarth meistr gyda myfyrwyr ein cyrsiau actio a theatr gerdd.

Bu Rob yn rhannu hanesion ei yrfa, cymrodd ran mewn sesiwn holi ac ateb ac arweiniodd sesiwn fyrfyfyrio gyda rhai o’r myfyrwyr.

Roedd Charlotte Merriam yn un o’r actorion blwyddyn olaf oedd ar y llwyfan gyda Rob yn ystod y dosbarth meistr. Meddai:

“Hoffais yn fawr y pwyslais yr oedd yn ei roi ar ddycnwch a gwaith caled, mae’n rhaid i chi ymroi eich hun yn llwyr i’r hyn yr ydych yn ei wneud ac i beidio â digalonni. Roedd hefyd yn hoffi’n fawr ei bwyslais ar fod yn berson da i weithio gydag ef – dyna wir feddylfryd CBCDC.”

Dywedodd Melissa Bayern, un o’r myfyrwyr Theatr Gerdd: “Roedd Rob yn hollol wych ac roedd y dosbarth meistr yn teimlo’n eithriadol bersonol ac agos atoch. Yn sicr cefais wybodaeth werthfawr y gallaf fynd â hi gyda mi i’m gyrfa broffesiynol.”

Ychwanegodd y myfyriwr Caitlin McKee: “Gan fy mod wedi fy ngeni a’m magu yng Nghaerdydd roedd hi’n ysbrydoliaeth arbennig i weld arwr o Gymro o fyd comedi yn barod i dreulio amser yn siarad â ni.”

Cafodd Rob ei gyfle masnachol mawr cyntaf gyda’r gyfres Marion a Geoff, yr oedd actio ynddi ac a gyd-ysgrifennodd gyda Hugo Blick, cyd-fyfyriwr graddedig CBCDC. Un arall a oedd yn yr un dosbarth â Rob yw’r actor Hollywood Dougray Scott.

Roedd ymweliad Rob yn rhan o raglen ddogfen ar gyfer y BBC a gynhyrchir i ddathlu ei ben-blwydd yn hanner cant oed, ac a ddarlledir yn ddiweddarach yn y flwyddyn.