Yn ôl i brif wefan CBCDC

Gwneud Aria Gyda Jonathan Dove

24 Mawrth 2015

Ffeiliwyd o dan:

Cerddoriaeth
Cyfansoddi

Mae myfyrwyr cyfansoddi yn gweithio ar brosiect cyffrous gyda Theatr Gerdd Cymru, un o’r cwmnïau opera newydd mwyaf arloesol. Partnerwyd pum cyfansoddwr gydag ysgrifennwr i ddatblygu aria wedi’i hysbrydoli gan y casgliadau Rhyfel Byd Cyntaf yn Amgueddfa Werin Cymru Sain Ffagan.

Fel rhan o’r broses bu’r myfyrwyr hefyd yn cymryd rhan mewn dosbarth meistr cyhoeddus gyda’r cyfansoddwr Jonathan Dove. Caiff y darnau terfynol eu perfformio yn Amgueddfa Werin Sain Ffagan ym mis Gorffennaf. Dyma fideo gan ein ffrindiau yn Theatr Gerdd Cymru yn sôn am y prosiect.

https://youtu.be/rzCgS-HEQW8

Erbyn hyn mae un o’r darnau o’r gwaith cydweithio yn ystod prosiect 2013 wedi ei ddatblygu’n opera lawn. Cafodd gwaith Spyros Syrmos, The Blank Canvas, adolygiad pedair seren gan The Guardian ac enillodd Offie (Gwobr Oddi Ar y West End) am yr Opera Orau.

Llun a fideo: www.helen-griffiths.co.uk