Broga, Brenhines Calonnau, coeden a phili pala oedd ddim ond ychydig o’r amrywiaeth o gymeriadau hynod a gogoneddus oedd yn cerdded o amgylch Theatr Bute ar gyfer y Sioe Celf Wisgadwy. Heriwyd ein cynllunwyr i greu gwigoedd a chymeriadau trawiadol mewn ymateb i L’enfants et les Sortileges Ravel.
Yn dilyn tair wythnos o ddylunio a chreu, cydweithio gyda’n cynhyrchwyr cerdd a’n rheolwyr llwyfan a sesiynau dawns dwys gyda’r coreograffydd, daeth ein cynllunwyr theatr blwyddyn gyntaf i ganol y llwyfan.
Mae’r gwisgoedd a grëwyd ar gyfer y perfformiad cerdd trawiadol hwn nawr i’w gweld yn Oriel Linbury.
Rhannu ar Twitter
Rhannu ar Facebook