Yn ôl i brif wefan CBCDC

Actor Waterloo Road yn Cynnal Gweithdai yn Sir Benfro

16 Ebrill 2015

Ffeiliwyd o dan:

Stiwdio Actorion Ifanc

Mae’r actor Richard Mylan, sy’n cael ei adnabod orau am Waterloo Road y BBC, wedi bod yn cynnal gweithdai Actio ar gyfer y Camera yn ysgolion Sir Benfro a Sir Gaerfyrddin y mis hwn fel rhan o Stiwdio Actorion Ifanc Gorllewin Cymru Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru.

Cynhelir clyweliadau Cwrs Actio Stiwdio Actorion Ifanc Gorllewin Cymru ar gyfer mis Medi 2015 yng Ngholeg Sir Benfro, Hwlffordd ar 25 Ebrill. Gall myfyrwyr hefyd ddewis mynychu’r Gweithdai Theatr sydd â mynediad agored. Cynhelir dosbarthiadau yng Ngholeg Sir Benfro bob dydd Sadwrn.

Richard Mylan yn gweithio gyda myfyrwyr o Ysgol Greenhill, Dinbych y Pysgod

Bydd Richard Mylan, yr actor llwyfan, ffilm a theledu, hefyd yn gweithio fel tiwtor rheolaidd Stiwdio Actorion Ifanc, gan ymuno â thîm o weithwyr proffesiynol sy’n cynnwys cyfarwyddwyr, coreograffwyr a gweithwyr eraill y diwydiant, yn ogystal ag actorion o fyd y theatr a theledu.

Yn ystod tymor yr haf bydd y cwmni ffilm cymunedol It’s My Shout hefyd yn gweithio gyda Stiwdio Actorion Ifanc Gorllewin Cymru ar hyfforddiant cyflwyniad i ffilm a theledu. Bydd hyn yn rhoi’r cyfle i fyfyrwyr fireinio eu sgiliau actio o flaen y camera a’u cyflwyno i’r holl gyfleoedd cyflogaeth eraill sydd ar gael y tu ôl i’r llenni ym maes teledu. Cefnogir y gwaith hwn hefyd gan Valero a Chelfyddydau a Busnes Cymru a chanlyniad y gwaith fydd ffilm ddogfen fer o waith y myfyrwyr.

Mae llawer o’r myfyrwyr a ymunodd â Stiwdio Actorion Ifanc Gorllewin Cymru y llynedd yn derbyn cynigion gan brifysgolion a cholegau drama yn cynnwys y Central School of Speech and Drama, Birmingham School of Acting, Oxford School of Acting, a galwadau’n ôl gan Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru.

Cafodd yr actor ifanc Henry Whittaker gynnig lle yn y Birmingham School of Acting: “Gwnaeth fy nghyfnod yn y Stiwdio Actorion Ifanc fy mharatoi ar gyfer her clyweliadau ysgol ddrama. Boed yn y clyweliad cyntaf neu’r galwadau’n ôl, roedd yr hyfforddiant Actorion Ifanc yn help mawr iawn. Ni fyddwn wedi cael lle mewn ysgol ddrama hebddo.”

Mae bwrsariaethau, a ddarperir gan Valero, ar gael i fyfyrwyr cymwys. I gael rhagor o wybodaeth am hyn, y clyweliadau a’r cyrsiau Actorion Ifanc ewch i www.rwcmd.ac.uk/yas.

Cefnogir y dosbarthiadau hyn gan grant CultureStep a Valero, cyflogwr mwyaf Sir Benfro.