Yn ôl i brif wefan CBCDC

Er Cof am Mervyn Burtch

14 Mai 2015

Gyda thristwch mawr y cyhoeddwn y bu ein cyn-gydweithiwr a Chymrawd y Coleg, Mervyn Burtch, farw ddoe ar ôl salwch hir.

Roedd Mervyn yn ffigwr nodedig ymhlith cyfansoddwyr Cymru a rhoddodd wasanaeth hir i’r Coleg fel aelod o staff rhwng 1979 a 1994. Parhaodd gyda’i ddiddordeb yn y Coleg a’i ymrwymiad i ddatblygiad ein myfyrwyr yn ei ffordd dawel, ddirodres a diymhongar, gan gynnwys noddi gwobr gyfansoddi Mervyn Burtch flynyddol.

Dros gyfnod o tua thrigain mlynedd amrywiodd cynnyrch Mervyn o operâu, concertos, a phedwarawdau llinynnol i gorff o waith anferth ar gyfer bandiau pres, corau, grwpiau cymunedol ac yn arbennig plant.

Meddai’r Pennaeth Cyfansoddi, John Hardy, “Yn gystal â bod yn gyfansoddwr toreithiog, roedd Mervyn yn ddyn eithriadol ddiymhongar, cyfeillgar a llawn anogaeth. Roedd bob amser yn hynod gefnogol i gerddorion eraill, gyda sylw caredig a buddiol i’w gynnig i’r rheini oedd yn aml ddegawdau yn iau nag ef.”

Geiriau cloi’r cyflwyniad a ddarllenwyd yn seremoni Cymrodoriaeth Mervyn oedd “Mae Mervyn Burtch yn artist o’r radd flaenaf ac wedi rhoi ei fywyd i ddiwylliant a phobl Cymru ac mae ganddo berthynas arbennig gyda phobl ifanc.”

Mae Ymddiriedolaeth Mervyn Burtch yn bodoli i sicrhau bod ei waith ar gael mor eang â phosibl ac i gadw ei gerddoriaeth yn fyw.

Rheolir gwefan Mervyn gan ddarlithwyr cyfansoddi CBCDC, Peter Reynolds a Michael McCartney, sydd wedi bod yn gweithio gyda Mervyn dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf yn casglu, catalogio a golygu ei weithiau ar gyfer eu cyhoeddi.

Mae’r prif lun yn bortread o Mervyn a baentiwyd gan Gigi Jones, ac mae i’w weld yng Ngholeg Brenhinol Cymru.