Llongyfarchiadau mawr i’r fyfyrwraig raddedig Justina Gringyte a enwyd yn Ganwr Ifanc Gorau yn y Gwobrau Opera Rhyngwladol.
Enillodd Justina y teitl, yn erbyn cystadleuaeth gan chwech arall yn y rownd derfynol, mewn seremoni wobrwyo yn Theatr y Savoy yn Llundain. Roedd hefyd yn perfformio yn y digwyddiad mawr ei fri.
Mae’n fis prysur i Justina. Mae’n paratoi i chwarae’r brif rôl yn Carmen yr ENO, sy’n agor wythnos nesaf. Mae myfyrwraig raddedig arall, Rhian Lois, yn chwarae rhan Frasquita yn yr un cynhyrchiad.
Rhannu ar Twitter
Rhannu ar Facebook