Yn ôl i brif wefan CBCDC

Gair o Gyngor Gan Gyn-fyfyrwyr Actio Sydd Erbyn Hyn yn Ysgrifennwr

21 Mai 2015

Ffeiliwyd o dan:

Actio

Yn ddiweddar daeth nid un, nid dau, ond tri o raddedigion actio sydd erbyn hyn yn ysgrifenwyr llwyddiannus iawn i’r Coleg. Hyfforddodd Ruth Jones, Moira Buffini a Hugo Blick fel actorion yn y Coleg, ond maent wedi mynd ymlaen i gael gyrfaoedd llwyddiannus fel ysgrifenwyr/cynhyrchwyr/cyfarwyddwyr.

Yn ystod eu hymweliadau buont yn siarad â myfyrwyr ynglŷn â’u gyrfaoedd, eu prosiectau presennol a gwnaethant hefyd gymryd rhan mewn sesiynau holi ac ateb.

Mae Ruth Jones wedi ymddangos fel actor yn Fat Friends, Little Britain, Nighty Night a Hattie. Cydysgrifennodd a serennodd yn Gavin and Stacey gyda James Corden, a chreodd, cynhyrchodd a serennodd yn Stella ar gyfer Sky One.

Fel rhan o’r tymor NEWYDD, cymerodd Moira Buffini, ynghyd â’r dramodydd Nick Payne, ran mewn trafodaeth ynglŷn ag ysgrifennu newydd. Mae Moira yn ysgrifennwr gwobrwyedig ar gyfer y llwyfan a’r sgrin. Hi ysgrifennodd y ddrama sgrin ar gyfer Tamara Drewe a hefyd addasu Jane Eyre ar gyfer BBC Films. Ei phrosiect diweddaraf yw wonder.land ar gyfer National Theatre – sioe gerdd newydd wedi’i hysbrydoli gan Alice in Wonderland, gyda cherddoriaeth gan Damon Albarn a’r gwaith cyfarwyddo gan Rufus Norris.

Hugo Blick oedd yr actor a ynganodd y llinell fythgofiadwy “Did you ever dance with the devil in the pale moonlight?” pan chwaraeodd ran y Joker ifanc yn Batman Tim Burton.

Fel ysgrifennwr, cynhyrchydd a chyfarwyddwr, mae Hugo yn gyfrifol am gyfresi teledu llwyddiannus megis Marion and Geoff (y gwnaeth ei chreu gyda’i gyd-fyfyriwr gradd yn CBCDC Rob Brydon), The Shadow Line (gyda chast llawn sêr yn cynnwys Chiwetel Ejiofor, Christopher Eccleston, Rafe Spall a Lesley Sharp), ac yn fwy diweddar y gyfres Honorable Woman a gafodd glod y beirniad ar gyfer BBC 2 gyda Maggie Gyllenhaal yn serennu.