Yn ôl i brif wefan CBCDC

Luke a’i Unawd yn Nhyddewi

10 Mehefin 2015

Ffeiliwyd o dan:

Chwythbrennau

Cawson air gyda Luke Russell, un o’n graddedigion, wedi iddo berfformio Concerto ar gyfer y Ffliwt gan William Mathias gyda’r Sinffonieta Prydain yng Ngŵyl Eglwys Gadeiriol Tyddewi (rihyrsal yn y llun uchod).

Mae Luke wedi bod yn brysur iawn ers graddio yn 2010. Fe’i penodwyd yn Gyd-flaenwr Ffliwt gyda’r Southbank Sinfonia, gan berfformio mewn lleoliadau ledled Ewrop yn cynnwys Neuadd Frenhinol yr Ŵyl, Neuadd Barbican, Ischia, Anghiari ac yng Nghonservatoire Paris.

Mae rhai o uchafbwyntiau diweddar ei yrfa yn cynnwys perfformio yng Ngŵyl iTunes fel rhan o gerddorfa yn chwarae cerddoriaeth gefndir i Miloš, Nicola Benedetti ac Alison Balsom; a pherfformiadau yn Neuadd Frenhinol Albert ar gyfer Proms y BBC gyda Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC a Cherddorfa Symffoni Dinas Birmingham. Mae hefyd wedi chwarae gyda Cherddorfa Opera Cenedlaethol Cymru a cherddorfa’r Hallé.

Nid Luke oedd yr unig un o raddedigion y Coleg a oedd yn chwarae yn y cyngerdd – roedd pedwar feiolinydd, tri chwaraewr fiola a chwaraewr soddgrwth hefyd yn gyn-fyfyrwyr CBCDC, ac un arall o’r graddedigion, Dave Danford, yw rheolwr y gerddorfa.

Sut deimlad ydoedd i chwarae’r darn hwn gyda’r gerddorfa?

Roedd yn deimlad gwych! Rydw i wedi hen arfer ag eistedd gyda’r gerddorfa a bod yn un elfen o’r peiriant, ond roedd bod yn y blaen wrth ochr yr arweinydd yn llawer o hwyl. Nid yn aml y bydd chwaraewyr ffliwt yn cael y cyfle i chwarae concerto fel unawdwyr gyda cherddorfa, felly roedd yn brofiad y gwnes ei fwynhau’n fawr ac yn rhywbeth y byddwn yn hoffi gwneud mwy ohono yn y dyfodol.

A yw hwn yn ddarn o gerddoriaeth yr ydych yn ei hoffi’n fawr?

Nid oeddwn yn gyfarwydd â’r Concerto ar gyfer y Ffliwt gan Wiliam Mathias cyn y perfformiad hwn, ond roeddwn wedi chwarae ei Sonata ar gyfer y Ffliwt yn y coleg a hefyd rhai o’i weithiau cerddorfaol gyda Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC.

Mae’r concerto yn ddarn da iawn o ystyried nad yw’n adnabyddus. Mae’r symudiad cyntaf yn dangos prydferthwch telynegol y ffliwt gyda melodïau godidog, yna ail symudiad ffrwydrol cyn gorffen gyda’r trydydd symudiad sy’n llawn tân gwyllt technegol ac ysgrifennu penigamp! Roedd ei berfformio yn llawer o hwyl ac roedd y gynulleidfa fel petaent wedi mwynhau hefyd!

Sut brofiad oedd chwarae yng Nghymru gyda nifer o gyn-fyfyrwyr CBCDC?

Mae Eglwys Gadeiriol Tyddewi yn lleoliad perfformio bendigedig, felly mae bob amser yn bleser perfformio yno. Mae wastad yn hyfryd gweithio a pherfformio gyda phobl yr ydych wedi eu hadnabod ers dyddiau coleg ac roeddwn yn adnabod rhai o’r cerddorion yn y gerddorfa ers blwyddyn gyntaf fy nghwrs gradd yn CBCDC! Mae’n braf iawn cael cyfle i sgwrsio a chlywed am yrfaoedd cerddorol pobl a’u bywyd yn gyffredinol.

Mae gwir deimlad o gymuned yn Sinffonieta Prydain, boed ein bod yn teithio Denmarc yn chwarae traciau sain, yn y stiwdio recordio yn chwarae cerddoriaeth gefndir i gantorion neu’n perfformio concerto yn Sir Benfro, mae’n bleser gweithio gyda hi ac mae’n llawn o gyn-fyfyrwyr CBCDC! Rwy’n edrych ymlaen at fy nghyngerdd nesaf gyda’r gerddorfa – Offeren Brahms – yn eistedd yn ddiogel yn yr adran chwythbrennau gyda fy ffrindiau.